Mwy o syndod byth wrth basio Eglwys Eilian a gweld fod ei thwr hithau wedi derbyn yr un driniaeth. Ond yn ystod yr haf, a minnau ymhell o Fôn, ciliodd fy rhagfarn yn erbyn gwyngalchu. Flynyddoedd yn ôl cefais y fraint o ddarllen hen lyfr Festri Caergybi. Erbyn hyn mae yn cael ei gadw'n ddiogel yng nghrombil Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Os gwn i faint sy'n ymwybodol o'i fodolaeth? Hen dro na châi gartref yn Llangefni, mewn man y gallai plant a phobl Môn ei ddarllen yn rhwydd. Llyfr a brynodd William Owen, Yswain Penrhos, yn 1725 ydyw ac yn cynnwys 86 o dudalennau memrwn. Rhodd mewn gwirionedd i Wardeniaid Caergybi i'w ddefnyddio fel llyfr cownt. Y dyddiau hynny oedd y Wardeniaid nid yn swyddogion eglwysig yn unig, ond yn swyddogion sifil hefyd. Mae eu ffyn swyddogol i'w gweld o hyd yn Eglwys Cybi. Ar ben un mae meitr, cap yr esgob, sy'n cynrychioli eu hawdurdod ysbrydol, ac ar ben y llall coron, sy'n cynrychioli eu hawdurdod seciwlar. Dengys fod Eglwys Cybi yn cael ei gwyngalchu bob gwanwyn, ac yn 1740 talwyd gini i un o'r enw Slater am wneud y gwaith. Talwyd dau swllt i helper i gario dwr i gymysgu'r calch. Nid gwaith glân yw gwyngalchu a thalwyd hanner coron i cleaner am olchi ar ôl y ddau. Roedd gini yn dipyn o arian yn nechrau'r ddeunawfed ganrif a rhaid bod y muriau allanol yn cael eu gwyngalchu hefyd. Yn 1746 cynhyrfodd y ddau Warden gan i Esgob Bangor anfon llythyr iddynt i'w hysbysu ei fod am ymweld yn swyddogol â'r dref yn yr hydref. Felly yn y llyfr cownt mae cofnod i Eglwys Cybi gael ei gwyngalchu ddwywaith y flwyddyn honno. Eglurwyd mai just a little oedd angen ei wneud yn yr hydref. Bach neu fawr mae gwyngalchu yn stompio a chafodd Jane Lyons chwe cheiniog am lanhau'r sblasio. Ar ôl imi fod yn Sioe Llanelwedd euthum o gwmpas 'Gwlad Kilvert' yn hen Sir Faesyfed. Fel Sgweier y Brynddu gadawodd y Parchedig Kilvert hefyd ddyddiaduron ar ei ôl. Yn 1865 cyrhaeddodd bentref Clyro, sydd dros yr afon i'r Gelli (Hay on Wye) lle mae'r miloedd llyfrau i'w cael a lle erbyn hyn y cynhelir yr Wyl Lenyddol flynyddol. Yno y bu yn hapus iawn am saith mlynedd. Er fy mawr syndod yn y wlad o gwmpas gwelais eglwys ar ôl eglwys wedi ei gwyngalchu a hynny ers canrifoedd. Enghraifft wych yw Eglwys Dewi Sant, Cregina a chefais ei llun. Rwyf wedi holi a chael ar ddeall y byddai Cestyll Cymru hefyd yn cael eu gwyngalchu hefyd. Mae calch yn sugno gwlybaniaeth ac yna wedi iddi orffen bwrw yn gadael i'r gwynt ei sychu gan nad yw cyn galeted â mortar. Fel hyn mae'r muriau'n gallu anadlu. (Pwy sy'n fodlon gwirfoddoli i wyngalchu Eglwys Llanfigael y gwanwyn nesaf a'i chael i edrych fel y gwnai yn nyddiau William Morris?) Edgar Jones
|