Cyd-ddigwyddiad ydy mai wyres
enillydd y Gadair yn 1909 sy'n rhoi
Cadair 2009. Ann Wyn ac Eric Wyn
Owen o Roscolyn yw noddwyr y Gadair eleni a thaid Ann, sef Caerwyn a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Amlwch yn 1909.
Crefftwr y Gadair ydy Gwynfor Owen o Landdeusant.
Mae'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers deuddeg mlynedd.
Noddwr y Fedal Ddrama yw
Vaughan Prytherch, a hon yw prif gystadleuaeth gyntaf yr Eisteddfod ym mis Ebrill.
Mae'r Fedal wedi ei
chynllunio a'i gwneud gan Bethan
Williams, artist lleol o Laneilian sydd ar hun o bryd yn gweithio ym Mirmingham.
Cafodd Bethan ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones,
yng Ngholeg Technegol Bangor a Choleg
Polytechnig Birmingham ble y graddiodd gydag Anrhydedd
Dosbarth Cyntaf mewn Gemwaith a Gwaith Gof Arian.
Enillodd Ysgoloriaeth deithio gan Gymdeithas Frenhinol y
Celfyddydau ar ôl iddi gyflwyno gwaith i gystadleuaeth
Medal y Gymdeithas ar y pwnc 'Y Dyn Gofod Anhysbys.'
Hefyd enillodd ddwy Ysgoloriaeth deithio y Coleg Polytechnig
- Ysgoloriaeth Louisa Anna ac Ysgoloriaeth George Jackson.
Yn ddiweddarach anrhydeddwyd Bethan gyda gwahoddiad
gan yr Amgueddfa Brydeinig i lunio cyfres o bedair medal yn
seiliedig ar Bedair Cainc y Mabinogi.
Bydd Tarian Audrey Mechell yn cael ei chyflwyno i'r
actor/actores orau yn Adran Ieuenctid yr Å´yl Ddrama a Tlws Goffa Charles Williams i'r actor/actores orau.
Tlws Prif Lenor Ifanc yr Å´yl - Cyflwynwyd y Tlws yma
gan Tomos Williams, un o ieuenctid yr Ynys.
Mae Tomos wedi
ei eni a'i fagu yn Llanfwrog a chafodd ei addysg yn Ysgol
Ffrwd Win ac Ysgol Uwchradd Bodedern cyn symud ymlaen i
Goleg Menai a Phrifysgol Caeredin ble y graddiodd gyda
gradd Anrhydedd mewn Dylunio.
Tomos hefyd a gynlluniodd y logo ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan y'i cynhaliwyd ym Môn yn 2004.
Ar hyn o bryd, mae'n gweithio
iddo'i hun ac yn ei amser sbâr mae'n ffarmio ac yn syrffio.
Noddwyr y Goron ydy Huws Eugrad Cyf, Brynteg a
chynllunydd y Goron ydy John Price.
Mae John wedi ei eni a'i
fagu ar gyrion Twyn 'Berffro - Llangadwaladr. Cafodd ei
addysg yn Ysgol Bodorgan, Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg y
Drindod, Caerfyrddin.
Treuliodd beth amser yn athro
Crefft ym Machynlleth a Dolgellau.
Y Goron Eisteddfodol
iddo'i llunio oedd Coron Eisteddfod Môn, Llangefni ar ddiwedd y chwedegau.
Ers hynny mae wedi llunio sawl Coron ar gyfer Eisteddfodau Môn, Llandegfan a Phowys a phedair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997 a enillwyd gan y Dr. Cen Williams, LIanfaelog.
Y llynedd cafodd ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ei wneud yn aelod o'r Orsedd.
Dydd Sadwrn yr Eisteddfod bydd
Tarian Goffa Dewi Francis yn cael ei rhoi ar gyfer y gystadleuaeth Parti Unsain BI 6 ac iau. Mae'r noddwr yn dymuno bod yn ddi-enw.
Bydd enillydd y Brif Gystadleuaeth Rhyddiaith yn cael ei
wobrwyo gyda Medal a noddwyd gan William Owen, Borth-y-Gest (Carreg-
lefn gynt).
Awdur toreithiog a hefyd
yn enillydd y Fedal Ryddiaith ei hun
ac wedi bod yn lIais cyfarwydd ar 'Wedi'r Oedfa' ar y radio.
Mae hefyd yn Lywydd nos Sadwrn
yr Eisteddfod. Mae'r Fedal wedi ei chynllunio gan fachgen
lleol arall, sef Siôn Hughes.
Ar ôl gadael Ysgol Syr Thomas
Jones cafodd Siôn yrfa lwyddiannus iawn yn y Coleg Celf a
Chelfyddyd Canolog ac yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain
cyn symud ymlaen i ddarlithio mewn sawl Coleg yn Ne Lloegr.
Yna fe'i apwyntiwyd yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Celf
Wrecsam (Coleg Regent Street fel y'i gelwid).
Ychydig yn
ddiweddarach ar ô marwolaeth y Pennaeth, fe apwyntiwyd
Siôn i'r swydd. Pan sefydlwyd NEWI, bellach yn Brifysgol
Glyndwr, Wrecsam, fe doddwyd y Coleg Celf yn un o
Adrannau'r Brifysgol.
Mae Siôn ar hyn o bryd yn gweinyddu un o Adrannau mwyaf
gweithgar y Brifysgol sydd yn ymwneud a holl waith gweledol
a'r Cyfryngau Technolegol.
Bron yn fisol bydd yn teithio i
Ganolfannau Addysg Uwch gwledydd fel China, India a
Dwyrain Ewrop yn ogystal a gwledydd y Farchnad Gyffredin ac mae llewyrch y
cysylltiad yn denu myfyrwyr a chyllid
tramor i Brifysgol Glyndwr.