... yn cadw'n ffit ac yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru a dramor ac yn cael llond trol o hwyl? Dawnsio gwerin!!Ia - mi wn fod rhai pobl yn ei alw'n 'ddawnsio gwirion' ac yn meddwl ein bod yn hollol wallgo yn prancio o gwmpas y wlad mewn haenau o wlanen gartref - ond credwch fi - mae o'n sbort. Ac mae Dawnswyr Môn yn un o'r timau mwyaf yng Nghymru erbyn hyn ac yn un o'r rhai sy'n cael fwyaf o sbort hefyd.
Gartref ar Ynys Môn dechreuodd yr haf yn brysur gyda lot o ymarfer a hefyd ambell i berfformiad - ar y sgwâr ym Miwmares, ym Melin Llynnon, gwneud twmpath ym mhriodas un o'n haelodau a hefyd croesi'r bont i Ŵyl Llandudno ac i Gaerdydd ar gyfer penllanw gweithgaredd dawns Cymru bob blwyddyn yng Nghŵyl Ifan.
Wedyn daeth yr Eisteddfod i'r Faenol. Yn ogystal â chystadlu mewn dwy gystadleuaeth buom hefyd yn perfformio ar lwyfannau ar y maes, arddangos yn y Neuadd Ddawns a Phabell yr Urdd a chymryd rhan mewn Anterliwt yn y Theatr Fach gan gyflwyno rhaglen gynhwysfawr yn y mannau hyn i gyd.
Mae'n debyg mai un o olygfeydd rhyfeddaf yr Eisteddfod oedd ein gweld yn ymlwybro o'r Theatr i'r llwyfan agored ac yn ôl trwy'r mwd ar y Sadwrn cyntaf mewn gwisg lawn gan geisio cadw'n sgertiau allan o'r mwd, a hynny'n dangos ein pantalŵns pen-glin i'r byd. Diolch byth nad oes llun o'r olygfa hynod!
Yn union ar ôl yr Eisteddfod roeddem wedyn yn cychwyn ar daith i Ffrainc - o Saujon yn ardal y Charente Maritime i Ŵyl ddawnsio. Roedd dau ddwsin o ddawnswyr a phump offerynnwr ar y daith - heb anghofio Ioan bach yn cario'r faner wrth gwrs!
Roedd bron i hanner y criw o dan 25 oed ac mae mor braf gweld y to ifanc yn dangos y fath frwdfrydedd.
Cawsom bum diwrnod hyfryd yng nghwmni'r tîm lleol - y Bategails de Saintonge, tîm a ymwelodd â ni yn Ynys Môn wyth mlynedd yn ôl ac y bu Dawnswyr Môn yn ymweld â hwy o'r blaen y flwyddyn ganlynol. Cadwyd y cysylltiad ac roedd yn braf bod yn ôl yno, y tro yma gyda grŵp arall o Ffrancwyr o Tournus yn ardal Bwrgwyn yn Nwyrain Ffrainc a hefyd criw arall o ddawnswyr ifanc o Groatia.
Buom i gyd yn dawnsio a gorymdeithio yn y strydoedd, yn arddangos mewn gwahanol drefi, mewn canolfannau ac ar lwyfannau awyr agored ac yn cymryd rhan mewn offeren yn eglwys hynafol Pont l'Abbe.
Roedd y noson o ddawnsio dan y sêr yn y parc yn Saujon a'r tân gwyllt anhygoel wedyn yn brofiad y byddwn i gyd yn ei drysori. Ond nid perfformio i ddiddanu eraill yn unig yr oeddem. Cawsom ddigon o gyfle i fynd o gwmpas i weld y wlad, mynd i'r traeth ac ymweld â distyllfa 'pineau' ac yn goron ar y cwbwl noson o wledda a cherddori a dawnsio cymdeithasol gyda'r timoedd eraill oedd yn bleser pur i ni i gyd.
Rhaid dweud mai un o'r pleserau pennaf i mi, fel un o aelodau hynaf y tîm oedd gweld yr ieuenctid yn cymdeithasu gyda'r Ffrancwyr a'r Croatiaid, yn gwneud ffrindiau ond hefyd yn taflu eu hunain i fwynhau y cyd-ddawnsio. Wnaeth ambell un ddim eistedd i lawr drwy'r noson!
Ond nid dim ond yr ifanc oedd yn dawnsio'n ddi-baid, roedd y rhai hyn ohonom fel petaem yn cael rhyw egni newydd o rywle, a neb yn fwy na'n aelodau hynaf, Owen Huw Roberts sydd wedi bod yn dawnsio ers hanner can mlynedd bellach. Dechreuodd ddawnsio pan yn athro ifanc yn Sir Ddinbych ym mis Medi 1955 ac mae yn ysbrydoliaeth heddiw i ni yn Nawnswyr Môn.
Wedi dod adref rydym wedi cychwyn ar dymor newydd o ddawnsio gyda phrynhawn braf o ddawnsio ar sgwâr Biwmares un waith eto ac edrychwn ymlaen at aeaf prysur ac at daith arall y flwyddyn nesaf.
Os oes unrhyw un sydd yn darllen hyn awydd cadw'n ffit, cadw'r traddodiad a chael lot o hwyl wrth wneud hynny, da chi cysylltwch â Mair Jones 01248 450508. Mae croeso i aelodau newydd bob amser.
Dwynwen Berry.