Ein cyrchfan cyntaf oedd Washington, dinas hyfryd gyda'r adeiladau enwog wedi eu hamgylchynu gan lawntiau, llynnoedd, coedwigoedd a choed unigol - yn enwedig coed ceirios, llawer ohonynt yn anrheg gan Llywodraeth Siapan. Er mai byr iawn yw hanes America, hynod deilwng yw'r cofadeiladau i dadau'r Undeb, yn enwedig Washington, Jefferson a Lincoln. Fel bron pob ymwelydd arall aethom i Fynwent Arlington lle mae bedd John F. Kennedy a'i frawd Robert, a beddrodau cannoedd o filoedd o filwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Cyntaf, dau Ryfel Byd, Vietnam a Korea. Arwydd o gyflwr trist ein byd heddiw yw'r seremonïau dyddiol i gladdu'r meirw o gyflafan Irac.
Ar y ffordd i Philadelphia galwyd mewn tref fechan ddiarffordd, Delta a Chapel Cymraeg Rehoboth a sefydlwyd gan Gymry a aeth i ddatblygu'r diwydiant llechi yn yr ardal. Cafwyd croeso yno gan aelodau'r capel a chyflwynwyd copi arbennig o'r Beibl Cymraeg Diwygiedig i'r Gweinidog, y Parchedig Richard Price Baskwill, a urddwyd i'r Orsedd fel 'Risiart Rehoboth' yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999. Mrs Enid Jones trefnydd gweithgar ac effeithiol Teithiau Gwyn, a fu'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael profiad o'r cysylltiad arbennig hwn rhwng Cymru a'r America ac yr ydym yn hynod ddyledus iddi am bob dim. Mae Delta a Chapel Rehoboth yn haeddu mwy o sylw a gobeithio bydd modd cynnwys mwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg cyflwynodd y Brenin Siôr II dir yn America i'r Crynwr, William Penn, dyn a hynafiaid Cymreig, a sefydlodd yr 'Arbrawf Sanctaidd' yn Nhalaith Pennsylvania. Yno, datblygwyd tref Philadelphia, 'dinas y cariad brawdol', prifddinas gyntaf yr Unol Daleithiau. Mae canolfan y ddinas yn hynafol yn nhermau Americanaidd a bu alltudion o Gymru'n flaenllaw yn natblygiad y dalaith a honnir bod un rhan o dair o lofnodwyr y Datganiad Annibyniaeth o dras Gymreig ac y mae enwau fel Francis Lewis, Lewis Morris a Robert Morris yn amlwg ar y ddogfen.
Mynnodd Bob Owen, Croesor, fod cynllun trefol cynharaf Philadelphia yn seiliedig ar dref Bala.
Diweddwyd y daith yn Efrog Newydd a gwelwyd y prif atyniadau - Cerflun Rhyddid, Ynys Elllis, Broadway, Times Square ac adeilad yr Empire State. Ymwelwyd hefyd â safle Ground Zero a'r eglwys fach gyfagos a agorodd y drysau gynnig bwyd, cynhaliaeth a chyfle am fyfyrdod i'r dynion tân, plismyn a'r gweithwyr a fu'n llafurio yn y rwbel. Trawiadol oedd yr arddangosfa syml o'r lluniau, gweddïau a negeseuon a adawyd yn yr eglwys.
Uchafbwynt y daith oedd ymweliad a ThÅ· Opera y Metropolitan yng Nghanolfan Celfyddydau Lincoln i weld a chlywed Gwyn Hughes Jones yn Opera Verdi, Nabucco.
Sylweddolwyd pam mae'r Met ar frig tai opera'r byd ac yn ganolfan i'r prif ddatgeiniaid operatig. Dosbarthir y tocynnau trwy'r byd i gyd a gwerthir allan ar gyfer pob perfformiad wythnosau o flaen llaw. Roedd y cynhyrchiad yn odidog gydag unawdwyr o fri arbennig. Chwaraeodd Gwyn ran Ismaele, nai i Frenin Israel ac arweinydd y Fyddin yn erbyn lluoedd Nebuchadnesar. Gydag ef oedd dwy Soprano disglair o Rwsia a Leo Nucci, Bariton o'r Eidal. Yr arweinydd oedd Carlo Rizzi, yr Eidalwr a aeth ati i ddysgu Cymraeg tra roedd yn Arweinydd Preswyl gyda Chwmni Opera Cymru.
Hynod drawiadol oedd y golygfeydd anhygoel o'r Deml yn Jerwsalem, Palas Nebuchadnesar, Gerddi Crog Babilon a glannau afon Ewffrates fel cefndir i'r cytgan adnabyddus, 'Va pensiero' gyda gosodiad ac osgo'r Côr yn adlewyrchu. digalondid ac anobaith yr alltud. Nid oes ryfedd fod y Met yn gallu denu prif unawdwyr y byd opera a bod presenoldeb Gwyn Hughes Jones yno am yr ail dro yn tanlinellu ei fod ymhlith y goreuon.
Calonogol, bellach, yw gwybod bod y ganolfan newydd yng Nghaerdydd yn prysur ddatblygu a hyderwn y bydd y cyfleusterau'n addas ar gyfer cynhyrchiadau tebyg i'r un a welsom yn y Met ar gyfer Gwyn a chantorion eraill disglair o Gymru sy'n addurno'r byd opera heddiw.
Eifion Griffiths