Mae'r wobr yn gyfle i berson ifanc rhwng 11 ac 18 mlwydd oed, sy'n byw ar Ynys Môn gael cydnabyddiaeth haeddiannol am roi o'i amser ac egni i helpu eraill.
Mae hwn yn gyfle i bobl ifanc eraill weld esiampl dda o ddinasyddiaeth. Gwelir hwn fel cyfle da i drigolion Môn weld ochr bositif o fywydau pobl ifanc yr ynys.
Enwebwyd Glesni am nifer o resymau.
Mae Glesni yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'i blwyddyn ysgol, yn is-gadeirydd y grŵp Gwrth Fwlio, aelod o'r clwb Gwrth Ysmygu, capten llys, a chapten chwaraeon yr ysgol.
Mae hi'n cymryd rhan flaenllaw yn codi arian i nifer o elusennau. Tu allan i oriau ysgol mae Glesni yn ysgrifenyddes ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, yn chwarae pêl-droed ac yn hyfforddi plant eraill.
Dyma adroddiad Glesni am sut yr enillodd y wobr:
"Wedi cael fy ethol fel Person Ifanc y Flwyddyn, derbyniais lythyr i ddweud fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer a bod y pum person terfynol yn cael y cyfle i fynychu 'diwrnod dewis' yng Ngorsaf Awyrlu Brenhinol y Fali.
"Roedd y diwrnod yn llawn hwyl a phrofiadau newydd.
"Cychwynnodd y diwrnod gyda ni'n cael ein croesawu'n gynnes gan yr awyrlu cyn dechrau ar ddiwrnod llawn o weithgareddau. Cawsom gyfle i weld awyren Hawk ac eistedd yn y cock pit a cheisio deall beth oedd yr holl fotymau a sut i'w hedfan. Roedd hyn yn brofiad anhygoel.
"Megis dechrau oedd hynny. Cawsom gyflwyniadau yn sôn am y Tîm Achub Mynydd a hofrennydd Sea King yn ogystal â chael profiad o fynd mewn efelychydd hofrennydd achub. Cawsom hefyd gyflwyniad gan beilotiaid yr Hawks ynglŷn â bomio a saethu. Cawsom wledd o ginio a dyma'r cyfle cyntaf i greu dylanwad da ar y panel o feirniaid.
"Cefais ddiwrnod gwerth chweil yn derbyn llwyth o brofiadau newydd cofiadwy.
"Roedd rhaid disgwyl am fis arall cyn cael y canlyniadau! Cafodd y pump enwebydd terfynol eu gwahodd yn ôl i'r Officer's Mess a chafwyd cyflwyniad gan Uwch Swyddogion yr Awyrlu. Ni allwn goelio fy nghlustiau pan ddaeth fy enw yn olaf - sef yr enillydd.
"Roedd yn fraint anhygoel bod yn fuddugol a derbyn y teitl 'Person Ifanc y Flwyddyn', cefais fy nghyflwyno â chwpan, tystysgrif a chusan gan y Tywysog William. Yn ogystal â hyn derbyniais rodd gwerth £150. Rhan arall o'r wobr yw cyfle i deithio o amgylch Ynys Môn mewn hofrennydd pan fydd y tywydd yn gwella!
"Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, roeddwn wedi fy syfrdanu mod i wedi derbyn gwobr cystal â chyfarfod Tywysog! Roedd yr holl beth yn fraint ac anrhydedd cael fy nghydnabod am fy ngwaith gwirfoddol yn y gymuned."
|