Eleni eto,
dyma oedd man cychwyn Sialens
Gwyllt Walia.
Wedi profi'r wefr o
gymeryd rhan y llynedd, a chwblhau y
90 milltir mewn amser boddhaol,
penderfynodd Dylan herio'r uchel-
diroedd eleni eto.
Er i lwybr y daith fod rhyw ddeng
milltir yn fyrrach y tro hwn roedd y
sialens o wynebu mynyddoedd Y
Berwyn a'r Arenig yn heriol.
Profodd y
beic a'r beiciwr yn ddigonol i'r her ac er
godidogrwydd Penllyn, braf oedd gweld
Llyn Tegid a'r llinell derfyn.
Prif amcan
gwneud y sialens eleni oedd y bwriad i
godi arian i Apel tÅ· Ronald McDonald,
Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.
Mae'r tÅ·
arbennig yma yn gartref oddi cartref i
deuluoedd plant sydd yn gritigol wael.
Caiff rhieni neu warcheidwad y plant
aros yma yn hollol ddi-dâl.
Nid yw tÅ·
Ronald McDonald yn derbyn unrhyw
grant na chymorth ariannol gan y
Llywodraeth.
Eisoes bu nifer o
ffrindiau yn hynod o hael a bwriedir
cadw'r apêl yn agored hyd at 20 Hydref.
Cafodd aelodau o deulu Dylan y
profiad o werthfawrogi TÅ· Ronald
McDonald.
Symbylwyd ef ar y daith
heriol hon wrth sylweddoli pa mor
werthfawr yw'r cartref oddi cartref.
Er
mwyn cydnabod pa mor werthfawr fu'r
lloches i rieni Cian Siôn, Jac, Samuel
(Sam) a Siôn, a'r llu mawr anhysbys, cefnogwch
ymdrech lew Dylan
drwy
estyn cyfraniad i Apêl Tŷ Ronald
McDonald, Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.
|