Rydym i gyd, fel Jacob, angen 'Porth y Nef' ar y ddaear, ac Eglwys Pabo fu'r fan honno i Margaret Jones ers pan ddaeth hi i fyw i'r plwyf o Fryngwran.Mae Eglwys Pabo Sant ychydig yn wahanol i eglwysi eraill ein bro. Cafodd ei sefydlu gan Frenin. Ychydig wyddom am Pabo ond dywed traddodiad iddo ffoi rhag ei elynion o ogledd Lloegr a derbyn lloches ym Môn, a hynny mewn caer y brodorion. Yno adeiladodd ei eglwys a hyd heddiw mae wal gron y fynwent yn dilyn wal gron y gaer.
Mae gan Eglwys Pabo ei thrysor, Carreg Fedd y Brenin Pabo. Mae hanes diddorol iddi. Rhyw dri chan mlynedd yn ôl roedd y clochydd yn agor bedd ac yn sydyn trawodd ei gaib yn erbyn carreg enfawr. Mae ôl y gaib i'w weld arni o hyd. Ychydig feddyliodd y clochydd ar y pryd beth oedd ei ddarganfyddiad. Y gwir yw i'r garreg gael ei lluchio o'r eglwys i'r fynwent yn nyddiau cythryblus Harri'r Wythfed. Roedd yn rhaid cael ymwared â phopeth Pabyddol o'n heglwysi yn ystod y dyddiau hynny. Ond gyda darganfyddiad y clochydd cafodd ddychwelyd, a'r tro hwn fe'i gosodwyd yn ddiogel ar y mur gogleddol.
Os edrychwch yn fanwl arni sylweddolwch fod rhywbeth braidd yn amheus ynglŷn â hi. Fel y disgwylid mae llun brenin wedi ei gerfio arni, coron ar ei ben a theyrnwialen yn ei law. ond mae'r deyrnwialen yn rhoi'r 'gêm i ffwrdd'. Ar ei blaen mae 'fleur-di-lis', fel y byddai ar deyrnwiail brenhinoedd Lloegr yn yr oesoedd canol a hynny oherwydd eu bod yn frenhinoedd Ffrainc hefyd.
Yna yn Lladin ysgrifennwyd, 'Yma y gorwedd Pabo Post Prydain. Cyffeswr. Gruffydd ab Ithel sy'n cyflwyno'r cerflun'. Mae 'cyffeswr' yn ddisgrifiad cywir o Pabo oherwydd daliodd i 'gyffesu'r ffydd' ac yntau dan erledigaeth. Yr hyn sy'n drysu pethau yw'r ysgrifen. Mae'r dull yma o gerfio yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Pam tybed y bu'n rhaid i'r Brenin Pabo aros wyth gan mlynedd am gofeb? Mewn gwirionedd nid carreg fedd mohoni, ond wyneb allor. Felly dylai ei hochr fod yn erbyn y mur fel bwrdd.
Allor garreg oedd ym mhob eglwys yn yr oesau canol, amwy nag un yn amI. Mae Gruffydd ab Ithel yn cyflwyno allor a cherflun arni er cof am Pabo fel y gallai'r offeiriad aberthu'r 'Mass' arni, ac fel diolchgarwch mae'n disgwyl i Pabo weddïo dros ei enaid. (Doedd ryfedd i'r Protestaniaid tanbaid ei lluchio hi i'r fynwent!)
Allor yw sawl carreg drws a welwn yn ein hen eglwysi o hyd, ac fe'i lluchiwyd hwy yno i wneud lle i 'Fwrdd-y-Cymun.'
Mae yna un peth arall hefyd yn Eglwys Pabo na ddylai fod yno. 'Diafol Llanbabo' yw hwnnw. Yr oedd o y tu allan i'r eglwys ar un adeg, yn wal y fynwent, ochr allan i'r wal mewn gwirionedd, yn wynebu'r gorllewin a machlud haul. Lle iawn iddo. Ond cymerodd rhywun drugaredd arno a dod ag ef i mewn i'r eglwys gyda'r esgus y gallai syrthio o'r wal a mynd ar goll. Yr oedd pwrpas iddo oddi allan oherwydd trwyddo gellid gwahanu'r 'defaid a'r geifr', y drwg a'r da. Dim ond ei ffrindiau allai ei weld! Yn awr all neb ei fethu!
Mewn gwirionedd un o hen dduwiau'r Celtiaid yw, ac yn goroesi'r Ffydd Gristnogol. Ni wnaeth Pabo, mwy na'r Seintiau eraill, 'ddryllio'r delwau', ond eu cadw, ac felly mae hen dduw'r Celtiaid yn Eglwys Pabo yn ein hatgoffa mai'r un Duw sydd erioed wedi datgelu ei hun 'mewn llawer dull a llawer modd' a hynny ym mhob cenhedlaeth.
Edgar Jones