Yn rhifyn Gorffennaf euthum yn ôl fil a hanner o flynyddoedd i gyfnod yr Eglwys Geltaidd gyda Padrig yn adeiladu ei gell
ar y clogwyn uwchben y môr, lle saif Hen Eglwys Padrig heddiw.
Yn rhifyn Awst euthum yn ôl ddau gan mlynedd i gyfnod cynnar Ymneilltuaeth Môn gyda'r Parchedig Christmas Evans yn dod i bregethu i gapel a adeiladodd y Bedyddwyr ym Mhont-rhyd-y-Bont.
Y mis hwn rwy'n gyfoes, oherwydd ar fy ffordd o Gaergybi heddiw gwelais gapel newydd yn cael ei adeiladu ar gwr y dref.
Roedd yn tresio bwrw, ond y gweithwyr fel morgrug yn gweu drwy'i gilydd a'r adeilad yn mynd i fyny o flaen fy llygaid. Bu'n rhaid i mi gael codi fy llaw arnynt, ac er fy mawr syndod cefais ymateb gwres-galon. Nid oedd ganddynt y syniad lleiaf pwy oeddwn ond cododd llawer ohonynt eu hetiau caled a gwenu.
Yng ngwres eu brwdfrydedd roeddynt yn cael hwyl yn y glaw. Ar y ffordd adre drwy Fali gwelais adeiladau eraill ar hanner eu codi, ond y gweithwyr i gyd yn llechu!
Deallais mai Tystion Jehofa oedd yn adeiladu'r capel newydd, a hwythau wedi bod yn addoli yn Ffordd Holborn am flynyddoedd. Mae dramodwyr wedi hen arfer eu cymeriadu drwy gnoc ar y drws a chymeriad yn mynd i'w agor a dychwel i ddweud yr un hen linell, 'Tystion Jehofa'.
Ac fel rhai sy'n curo ar ddrysau rydym ninnau'n eu hadnabod. Flynyddoedd yn ôl byddai'r Mormoniaid yn gwneud yr un peth, fesul dau, ond nid wyf wedi eu gweld hwy o gwmpas ers amser maith.
Fel gyda phob sect mae hanes dechreuad y Tystion yn ddiddorol. Maent yn perthyn i'r un drefn o grefydda a'r Undodwyr, Mormoniaid a'r Seientiaid Cristnogol. Maent i gyd wedi dewis rhannau o'r Ffydd Gristnogol, ond nid yn ei chyfanrwydd.
Y sylfaenydd oedd Charles Russell; gŵr busnes o Bennsylvania. Roedd wedi ymaelodi gyda'r Adfentyddion ac yn credu'n gryf y doi diwedd y byd ar fryder. Drwy ddehongli digwyddiadau o'r Hen Destament a'r hyn a ddigwyddai o'i gwmpas cyhoeddodd mai 1874 oedd blwyddyn ail-ddyfodiad Crist. Ond clustiau byddar gafodd gan y gynulleidfa. Gadawodd hwy.
Wrth i 1874 ddirwyn i ben, a blwyddyn arall ar dorri, buasai rhywun yn credu y torrai Russell ei galon. I'r gwrthwyneb. Cyhoeddodd iddo wneud camgymeriad wrth rifo'r blynyddoedd a 1914 oedd y flwyddyn. Dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn dan y teitl The Watch Tower.
Aeth 1914 heibio ac fe neidiodd i 1918, ond bu farw yn 1916. Yr arweinydd nesaf oedd Franklin Rutherford. Y peth cyntaf a wnaeth ef oedd cyhoeddi mai 1925 oedd y flwyddyn. Siomiant eto, ac o hynny ymlaen gochelwyd nodi blwyddyn a sôn am y digwyddai yn 'y dyfodol agos'.
Siomiant mwy oedd marwolaeth Rutherford yn 1942 a'r Deyrnas byth wedi gyrraedd.
Yn yr un cyfnod roedd rhai yng Nghymru'n darogan diwedd y byd hefyd, ac nid yn unlle'n fwy nag yn fy hen Goleg, Coleg Dewi Sant, Llanbedr.
Roedd rhai o'r myfyrwyr wedi sefydlu cymdeithas, 'Cymdeithas Lanbed', ac fel yr Americanwyr yn chwilio yn yr Hen Destament am arwyddion i nodi dyddiau. Cafwyd hyd i ddiwrnod ac i ffwrdd a hwy ben bore i fryncyn tu ôl i'r Coleg, ond codi wnaeth yr haul a dychwelyd wnaethant hwythau i'w darlithoedd.
Oherwydd hyn bu'r Coleg dan y lach am flynyddoedd.