Brwydr hir a chaled oedd codi'r arian at y gwaith, gyda'r gost yn codi fel aeth amser ymlaen, nes digaloni rhai a feddyliai na fyddai yna byth ddigon i gwblhau'r gwaith.
Penderfynwyd dechrau ar y gwaith ac ymgymerodd Mr Hywel Manley-Williams, aelod a gwr un o'r Wardeniaid, y cyfrifoldeb o arolygu'r gwaith a chael nifer o gontractwyr lleol i wneud y gwahanol rannau, a gwneud llawer o'r gwaith ei hun.
Fe arbedwyd rhai miloedd o bunnoed wrth wneud hyn, ac fel gwelai pobl y gwaith yn mynd ymlaen roedd yn haws ganddynt gyfrannu at gwblhau'r gwaith.
Agorwyd yn swyddogol ar 7 Rhagfyr 2007 gyda gwasanaeth yn yr eglwys yng ngofal y Rheithor, y Barchedig Ganon Christine Llewelyn, yna i'r Neuadd i'r agoriad gyda gwledd wedi ei pharatoi.
Diolch i bawb am eu haelioni a'r rhai fu'n gweithio mor ddyfal yn enwedig y Barchedig Ganon Christine Llewelyn, Hywel a Brenda Manley-Williams, Geoff a Meg Davies a George a Mair Lees.
Eric Wyn Owen.
|