Bydd y Parchedig Roberts, offeiriad wedi ymddeol, yn anfon colofn bob dydd Sadwrn i'r Daily Post. Efallai bod hyn yn wir, ond er i mi gael troedio pob cwr o'r ynys, ddydd a nos, ac wedi cael byw i gyrraedd pedwar ugain mlynedd, ni welais unrhyw beth allai fod yn ysbryd, ond clywais amryw yn sôn am ddigwyddiadau cyffrous.
Yr oedd gŵr o Drewalchmai yn cerdded adref un noswaith ar ôl cyfarfod â'i gariad, oedd yn byw yng nghyffiniau Bryngwran yma. Pan yn agosáu at fferm Cae'r Glaw fe sylwodd bod goleuni wedi ymddangos ar y ffordd o'i flaen, hithau yn noson glir. Yr oedd y gŵr yma eisoes wedi clywed sôn am 'gannwyll gorff' heb gymryd llawer o sylw ar y pryd. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd gartref fe ganfu bod ei fam wedi marw, a hyn yn bur annisgwyl, meddai ef.
Fe glywais stori arall gan hen gymeriad o'r pentref yma, a minnau wedi dod yn bur gyfeillgar ag ef. Yr oedd newydd briodi ar y pryd hwn, ac yn byw mewn tyddyn chwe acer o'r enw Tan y Graig, Llynfaes.
Un noswaith ym mis Awst oedd hi, gyda storm o wynt y dwyrain yn achosi iddo neidio oddi ar ei feic oherwydd yr allt gerllaw Bodwina Bellaf, Gwalchmai. Wedi mynd ychydig latheni fe sylweddolodd fod rhywun yn cerdded wrth ei ochr, ac fe drodd i edrych pwy oedd yno. Gwelodd ddyn bach iawn o gorffolaeth wedi gwisgo yn debyg i weithiwr amaethyddol ac yn gwisgo het ar ei ben.
"Ydych chwi'n gweithio ar un o'r ffermydd yma", gofynnodd fy nghyfaill, ond ni chafodd ateb o gwbl gan y corach. Yn sydyn fe glywai wallt ei ben yn codi mewn braw, gan sylweddoli bod y dyn bach yn bur anghyffredin.
Wedi iddo droi i gyfeiriad Bodwina Bellaf fe aeth fy ffrind adref ar unwaith. Rhag ei dychryn ni soniodd yr un gair wrth ei briod. Byddai rhai o'r trigolion yn cyfarfod mewn efail gofaint gerllaw. Wedi iddo adrodd ei hanes yno, fe gyfaddefodd rhai o'r dynion iddynt hwythau hefyd gael cipolwg ar y dyn bach.
Wedi cyrraedd adref fe anfonais y stori hon i swyddfa'r Herald Cymraeg, Caernarfon. Y diweddar John Eilian oedd golygydd yr Herald ar y pryd, ac ymddangosodd fy stori dan y pennawd 'Bwgan Bodwina Bellaf' minnau yn anfon colofn gyson i'r Herald ar y pryd. Mewn canlyniad i hyn fe ddaeth un o swyddogion y 91Èȱ¬ i drafod y stori ymhellach ond yn anffodus nid oeddwn gartref ar y pryd, ac ni wn beth ddigwyddodd wedyn.
Gyda'r swyddog 91Èȱ¬ yr oedd y Parchedig Tom Griffiths, gweinidog Capel Hebron MC ar y pryd. Bu fy stori yn yr Herald ar 14 Medi 1976 ac ysywaeth mae cymaint o'r hen ffrindiau bellach wedi cefnu ar y fuchedd hon. Pwy a ŵyr nad ydynt yn parhau i droedio'r hen ynys annwyl?