Rydym fel Clwb wedi ethol Iwan Rhys Roberts fel Cadeirydd am eleni. Mae Iwan wedi bod yn aelod o'r Ffermwyr Ifanc ers nifer o flynyddoedd bellach ac wedi bod yn cymryd rhan mewn amryw i gystadleuaeth, o actio i farnu stoc. Mae'r swydd yma yn swydd hollol newydd i Iwan, ac rydym yn rhoi cefnogaeth iddo.
Ein Is-gadeiryddes yw Llinos Medi Huws ac fel Iwan, mae Llinos wedi bod yn aelod ffyddlon o'r Clwb ers blynyddoedd ac mae Llinos wedi bod mewn gofal amryw o swyddi o fewn y Clwb ac wedi cystadlu mewn sawl cystadleuaeth drwy'r Sir a drwy Gymru.
Aled Thomas yw ein hysgrifennydd eleni gydag Arwel Roberts yn Is-ysgrifennydd. Mae'r swydd yma yn newydd i Aled, ond mae Arwel yn hen law ar y swydd. Mae Aled yn barod wedi trefnu rhaglen gwerth chweil ar gyfer y Clwb am y misoedd cyntaf. Rydym yn edrych ymlaen yn arw iawn i gael cychwyn y gweithgareddau.
Yn cadw trefn ar stâd ariannol y Clwb eto eleni mae Delyth Thomas gyda Sara Owen yn Is-drysoryddes. Mae'r ddwy wedi bod yn aelodau o'r Clwb ers peth amser ac wedi cael llwyddiant mawr drwy'r Sir a drwy'r wlad.
Hoffai holl aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ddiolch i'r holl Swyddogion a fu yn gyfrifol y llynedd a dymuno phob lwc i'r Swyddogion newydd am y flwyddyn sydd i ddod. Hefyd hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gymorth i'r Clwb dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y Clwb, gydag ambell i siaradwr gwadd yn dod i mewn atom ni. Ymhen dim mi fydd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Man yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Bydd aelodau'r Clwb yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwahanol gystadlaethau sydd yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd.
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern yn cael ei gynnal pob nos Fawrth yng Nghanolfan Bro Alaw, Ysgol Uwchradd Bodedern o 7.30 tan 9.30 o'r gloch. Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni.
|