Fel yn un o'i gyfrolau cynharaf, Codi Canol Cefn, y mae blas y pridd yn iaith lafar Môn ar ei gorau yn ei gyfrol ddiweddaraf.Dywedir yn y broliant: "Mae dawn dweud ddigamsyniol ar waith ac yntau yn amlwg wrth ei fodd yn traethu ei len a'i ffraethineb".
Rhywbeth at ddant pawb, greda'i, sydd yn y 23 ysgrif. Fel un sy'n hen law ar grwydro, cawn fynd gydag o ar sgowt i Sempringham i weld cofgolofn y Dywysoges Gwenllian, disgynnydd Llywelyn y Llyw Olaf, a dreuliodd dros hanner canrif mewn caethiwed yno. A dyna bentref Slad ym mherfedd gwlad Sir Gaerloyw, cynefin Laurie Lee un o hoff awduron William Owen. Yn Ne Ffinistêr y mae Locronan lle clywodd y ceiliog yn canu yn y bore bach a'i atgoffa am geiliogod Cae Rhun, Clegyrog Ucha' a Tŷ Lawr ei blentyndod. Do, fe gafodd siom wrth weld siop Marks & Spencer yn Fienna, o bobman, y gallai'r Afr Aur gynt yn Amlwch a hyd yn oed McKillap yn Llannerch-y-medd ei bwrw'n llwyr i'r cysgodion.
Os mai hwyl go iawn sy'n apelio atoch byddwch wrth eich bodd gyda Helyntion y Fona Leusa a chyfrwystra Ned Porth Farthin yn manteisio ar ddiniweidrwydd Ifan Llain Focha! Fedrwch chi ddim peidio gwenu chwaith wrth flasu Cyflwyno'r Siaradwr. Amrywiaeth gwahanol sydd yn Edrych Drwy'r Ffenest; y bywyd gwyllt amrywiol a wêl yr awdur o'i deras ym Mhorth-y-Gest; Rhodio Mhlith y Beddau o gwmpas Eglwys Ynyscynhaiarn a Dirgelwch y Goron a brynwyd mewn ocsiwn yn Llandeilo.
I mi, fodd bynnag, y mae Dau Lun Syr Kyffin Williams yn cydio o'r darlleniad cyntaf: un o Ushuaia yn ymyl yr Andes a'r llall o bentref Carreglefn. Y gyfrinach y tu ôl i'r ail sy'n datgelu rhywbeth o bwys am gymeriad hynaws yr artist athrylithgar.
Ysgrif y troais ati fwy nag unwaith eisoes yw Dathlu'n Briodol, hanes ymweliad yr awdur a'i briod â Gwesty Tre Ysgawen, ger Capel Coch. Plethwyd atgofion yr annwyl Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys, yn gelfydd i'r stori. Ardderchog yn wir. Mae 'na awyrgylch agos-atoch hefyd yn Setlo Cownt Mewn Aduniad; cyfarfod â John Monfa, wedi hanner canrif, ymhlith cyn-ddisgyblion ysgol yng Ngwesty'r Lastra. Oes, yn wir, y mae rhagor yn y gyfrol, ond gwell bodloni ar damaid i aros pryd. Heb os, chewch chi mo'ch siomi. Mae Laurie Lee, Carreg-lefn ar ei gwar hi yn y gyfrol hon eto.
Cyn cau pen y mwdwl ymuna cyfeillion William Owen ym mro'r Rhwyd i'w longyfarch yn frwd ar ennill Tlws y Ddrama, Eisteddfod Môn Llanrhuddlad. Fel y byddai'r diweddar Llew Llwydiarth yn arfer dweud, "Gorchestol, frawd!"
I.W.J.
Ryw wythnos yn ôl daeth y Post Brenhinol a chyfrol i'r tŷ 'ma ynghyd a gwahoddiad i roi 'rhyw hysbys fach i hon'. A dyma fi'n mynd ati i estyn fy mhensil goch a darllen yn union fel y bum yn ei wneud ryw hanner canrif yn ôl!
Rwyf wedi darllen pob un o gyfrolau William Owen fwy nag unwaith o Codi Canol Cefn (pris 80c) a gyhoeddwyd yn 1979 hyd y dydd hwn ac wedi cael mwyniant a llawer o hwyl. Rhoes Tua'r Dalar (2001) dipyn bach o sioc i mi. Roedd y teitl yn fygythiol braidd a theimlwn fod Wil wedi sobreiddio. Ond dyma'r gyfrol newydd yma'n ymddangos a Wil yn ôl gyda'i hiwmor iach a'i ddireidi.
Yn y sgwrs olaf cyfeddyf William Owen "alla i ddim dros fy nghrogi draethu ar unrhyw fater yn hir heb fy mod yn hwyr neu'n hwyrach yn manteisio ar bob cyfle i sôn am y pentre' bach annwyl hwnnw yng Ngogledd Môn". Ond mae ei gynfas yn llawer ehangach. Erbyn hyn mae o'n deithiwr o fri a chawn ein hunain yn gwmni iddo yn yr Aifft, yr Eidal a Llydaw. Fel y dywedodd neb llai na Syr Thomas Parry mae'n adnabod y natur ddynol' ac mae hynny'n amlwg yn ei bortread o'r Hen Bâr.
Mae bonws arbennig i mi yn Dal i Frygowthan oherwydd ei fynych gyfeiriadau at 'y lle bûm yn gware gynt' ac at gymeriadau hoff y bûm yn gyfarwydd â nhw. Rwy'n credu bod ysgrifennu wedi mynd yn rhan o'i fywyd. Erbyn hyn mae wedi datblygu'n llenor praff hyderus sicr o'i gyfrwng ac y mae'n bleser gen i eich cymell i brynu'r llyfr. Mi wn na chewch eich siomi.
Hir oes i Wil a Susan wrth eich ymyl i 'ddal i frygowthan'.
A.W.J
Dal i Frygowthan - William Owen - Gwasg y Bwthyn - £6.99