Dyma'r amser y dechreuodd y ffyddloniaid gefnu ar eglwysi ac o ganlyniad yr adeiladau'n dirywio, a neb yn poeni amdanynt. Yn Lloegr, a phob eglwys blwyf yng nghlwm a'r Senedd, aethpwyd ati i restru eglwysi y buasai gwasanaethau'n cael eu cynnal ynddynt petaent yn cael eu hatgyweirio. Cafodd gŵr o ardal y Rhwyd, Ivor Bulmer-Thomas, Bodior, swydd fel cadeirydd i bwyllgor a apwyntiwyd gan yr awdurdodau eglwysig i gyflawni'r gwaith. Ond yn fuan fe ddarganfod eglwysi o ddiddordeb arbennig yn dadfeilio, a llawer ohonynt heb obaith cael cynulleidfa i addoli ynddynt mwyach, ac felly heb obaith chwaith derbyn grant i'w hatgyweirio. Eglurodd i'w bwyllgor y byddai'n rhaid iddynt newid y rheol ynglŷn a chynulleidfa. Ond fe wrthodwyd ei awgrymiad. Cerddodd allan mewn tymer gan ddweud y casglai ef wirfoddolwyr ei hun i wneud y gwaith. Ffurfiodd gymdeithas a galw'r aelodau'n 'Gyfeillion Eglwysi Digyfaill'.
Flynyddoedd cyn hyn yr oedd Ivor Bulmer-Thomas wedi 'darganfod' hen Eglwys Llantrisant ac yn dal i ofidio am ei chyflwr truenus. Felly doedd ryfedd mai Llantrisant oedd yr eglwys gyntaf ym Môn i gael ei mabwysiadu gan y gymdeithas newydd. Aeth eglwys Llantrisant bron yn adfail oherwydd i eglwys arall gael ei hadeiladu filltir i ffwrdd. Gan mlynedd yn ôl roedd yna chwilen i adeiladu eglwysi newydd yn lle atgyweirio'r hen rai. Gwnaed hyn yn Llanrhuddlan a Llanddeusant.
Yr eglwys nesaf ym Môn i'w mabwysiadu gan y gymdeithas oedd eglwys Tal y Llyn. Nid eglwys blwyf mohoni ond capel anwes; yn Saesneg 'Chapel of Ease'. Hynny yw eglwys oedd yn haws i rai o'r plwyfolion ei mynychu na'r eglwys blwyf. Enw gwawdlyd am eglwys o'r fath oedd 'capel y diog'. Mewn plwyfi mawr gall eglwys y plwyf fod ymhell. Mae plwyf Llanbeulan yn un mawr, ac o'r hen herwydd adeiladwyd eglwys yn ardal fferm Tal y Llyn. Roedd fferm Tal y Llyn ei hun, gyda'r teulu a'r gwasanaethyddion, yn hanner llenwi'r eglwys. Mae eglwysi Gwredog a Rhosbeiro yn gapeli anwes hefyd.
Yn 1999 y dechreuwyd ar y gwaith o atgyweirio Tal y Llyn. Erbyn hyn mae'n werth ei gweld. Ddechrau'r flwyddyn mabwysiadwyd eglwys Llanfigael. Yn awr mae CADW yn cydweithio a'r gymdeithas ac yn hael eu cyfraniad tuag at y gost o atgyweirio.
Bu farw Ivor Bulmer-Thomas yn 1993 yn 88 mlwydd oed a'i gymdeithas wedi mabwysiadu tri deg wyth o eglwysi, gyda'u hanner yng Nghymru, ac erbyn heddiw tair ym Môn. Mawr ddiolch i'r gymdeithas o Loegr. Edgar Jones
|