Dywedodd rhyw hen wag unwaith fod personiaid yn debyg iawn i domen o dail. Hynny yw, nid ydynt yn da i ddim yn bentwr gyda'i gilydd, dyweder mewn cynhadledd neu bwyllgor, ond wedi eu chwalu hyd wyneb y ddaear, yn eu plwyfi, maent yn gallu hod yn ddigon gwrteithiol. Efallai o bob swyddogaeth a galwedigaeth mai ymysg personiaid y ceir y cymeriadau hynotaf a lliwgar. Ni fu gwell potsiar nag ambell berson, ysmyglwr, paffiwr, ymgodymwr, consuriwr a llawer peth arall. Wedi'r cyfan yr oedd yna ar un adeg fyddin gref ohonynt. Yr oedd yna bymtheg ym mro'r Rhwyd ddeugain mlynedd yn ôl. Efallai mai'r hynotaf o feibion Adda oedd y Parchedig Robert Stephen Hawker, ac ef ddechreuodd yr Wyl Ddiolchgarwch fel yr ydym ni'n ei hadnabod. Person eglwys Morwenstow yng Nghernyw ydoedd ac i lawer yn y gymdogaeth cyfrifid ef yn ychydig wahanol i'r rhelyw ohonom. I eraill, y rhai mwyaf gonest efallai, ddim llawn llathen. Ond mae'r Hollalluog yn gallu defnyddio'r rhai rhyfeddaf ohonom. Wrth baratoi ein heglwysi at Wyl Ddiolchgarwch hawdd yw rhamantu a chredu ein bod yn dilyn canrifoedd o draddodiad heb gofio mai mor ddiweddar â 1843 y cyhoeddodd y Parchedig Hawker un bore Sul ei fwriad i gynnal Gwyl o Ddiolch am gynnyrch y ddaear ac i'r plwyfolion addurno'r eglwys â ffrwythau a blodau. Gwerin syml oedd plwyfolion Morwenstow a phan daranai'r person o'r pulpud fod defoliaid yn ogystal ag angylion yn hedfan o'u cwmpas nid oedd ryfedd iddynt swatio yn erbyn corneli eu seddau ar fore Sul. Ond sicrhau hwy ei fod ef mewn cysylltiad personol â'u nawdd Sant Morwena ac y gallai hi eu cadw'n ddiogel. Y wyrth fawr yw'r ffaith fod Gwyl Ddiolchgarwch y Parchedig Hawker wedi lledaenu fel tân gwyllt dros Brydain, ac yn unman yn fwy nag yng Nghymru. lawn i hyn ddigwydd yn ein heglwysi, ond daeth yn Uchel Wyl Ymneilltuaeth Cymru a disodli'r hen wyliau, fel y Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn. Yn y ganrif ddiwethaf neilltuwyd dydd arbennig iddi, y trydydd Llun ym mis Hydref. Diwrnod i bob Sant a phechadur droi'r capel am un oedfa beth bynnag. Bu'n rhaid cau'r chwareli, y gweithfeydd a'r siopau. Mewn gwirionedd dibynnai'r Achos ar offrwm y dydd, a dyma ni'n ôl ymhellach na hyd yn oed y Parchedig Hawker, 'gan ddegymu mi a'i degymaf i ti'. Edgar Jones
|