O edrych ar ffordd yr A5 yn y
llecyn hwn heddiw, mae'n anodd credu mai yno, tua chanol y briffordd, y safai'r hen farics gynt, sef o flaen y rhes gwestai thros y ffordd i'r Ganolfan Gymunedol heddiw (sef hen apêl 'Disgwylfa' - London Rd gynt).
Codwyd y barics ar gyfer gweithwyr y trenau stêm yn pennaf, sef rheini a oedd yn byw yn Llundain, er mwyn iddynt gael lle i aros dros nos ar ôl cyrraedd Caergybi.
A'r un modd fyddai gweithwyr trenau Caergybi, pan deithient yn ôl ac ymlaen i'r brifddinas, yn cael treulio'r nos yn Willeston Barracks, LIundain.
Nid oedd yr hen drenau'n cychwyn yn ôl ar eu union yr adeg honno pan oedd
pethau'n arafach; roedd mwy o waith paratoi a IIwytho yn nyddiau'r ager beiriant.
Dywedir bod naws adeiladau Oes Victoria yn y barics, a bod safon glanweithdra yn uchel gyda phob dim yn ei le a'r cyfan mewn
cyflwr graenus; lle cysurus i'r gyrwyr, a'r tanwyr, y gardiau, hefyd, gofalwyr a staff y cerbydau bwyd ac eraill, i dreulio noson cyn ail gychwyn drannoeth ar eu taith yn ôl tua'r brifddinas.
Arferai llawer o'r teithwyr, amryw ohonynt ar eu taith i'r Ynys Werdd, letya yng Ngwesty'r Rheilffordd ar fin y porthladd.
Ar y naill ben i'r barics yr oedd tÅ· 'meistr y sied', sef y sied trin, cynnal a chadw peiriannau, ac ym mhen arall yr adeilad yr oedd tÅ·'r metron.
Gyda diwedd oes y stem daeth trenau cyflymach a hwylusach a fyddai'n galluogi'r gweithwyr i adael a dychwelyd i'w cartrefi ar y diwrnod.
Felly y daeth dyddiau'r barics i ben; fe'i
dymchwelyd yn ddiweddarach er mwyn lledu'r briffordd sy'n arwain i'r dref.
Diolch i Mr Gareth Williams, Cae Braenar am y llun a'r hanes.
M.LI.W.
|