91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Croesi'r Conwy - mewn car?!
Tachwedd 2007
Tony Ellis sy'n dadlau na ddylech goelio pob dim dach chi'n ei ddarllen ar y We!
Tua blwyddyn yn ôl clywais sgwrs ar y radio (sioe Dyl a Meinir, dw i'n meddwl) lle roedden nhw isio gwybod beth oedd y record o ran ffitio pobl mewn Mini, a bu sôn am ryw gant o bobl, sydd yn amlwg yn hollol amhosib.

Chwiliais ar y We, ac wele! Des i o hyd i'r un rhif - sawl gwaith a dweud y gwir. Rhaid bod hi'n wir! Ond na, pan chwiliais yn ddyfnach, gwelais fod pob safle yn "safle drych", sef un sy'n copio'r wybodaeth o wefan wreiddiol (efo caniatâd, wrth reswm) - ond un efo manylion sy ddim yn wir!

Chymrodd hi fawr o ymdrech i ddod o hyd i'r record go iawn - 21 o bobl, gyda llaw (yn ôl y rheolau, rhaid i bawb fod o leiaf 4'11" o daldra, a ffitio i mewn â'r drysau ar gau am 20 eiliad).

Rydw i wedi sôn o'r blaen am Wikipedia, gwyddoniadur ar y We, ac un gwych yn fy marn i. Os mai gwybodaeth sy isio, ewch i gyntaf cyn defnyddio peiriannau chwilio.

Y tro diwethaf i mi sôn amdano, ryw flwyddyn yn ôl, roedd 'na filiwn o erthyglau ar gael - erbyn hyn mae 'na dros ddwy filiwn!

Ysgrifennir a golygir yr erthyglau gan y cyhoedd - mae pawb yn arbenigwr ar rywbeth - ond mae'r wefan wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i rywun ysgrifennu bod Ronnie Haslehurst - y cerddor a fu farw - wedi ysgrifennu "Reach", can gan S Club 7.

Rwan 'ta, efallai mai camgymeriad oedd o, neu fandaliaeth hyd yn oed, ond cyhoeddwyd hyn gan rai papurau, sydd yn amlwg yn defnyddio Wikipedia yn hytrach na gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain!

Ac ymddangosodd y ffaith hon am Ronnie Haslehurst ar lawer o wefannau eraill hefyd, gan fod 'na nifer fawr o safleoedd drych sydd yn defnyddio'r hyn sydd ar Wikipedia.

Na, peidiwch a choelio pob dim dach chi'n ei ddarllen ar y We! Mwy am Gyfrifiaduron a Byd y We mis nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý