Fel rhan o welliannau i adnoddau Ffordd Llanelian, bydd arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod o gwmpas y maes dros yr wythnosau nesaf. Mae'r clwb, sydd yn aelodau o Adran Gyntaf Cynghrair yr UniBond, wedi sicrhau grant fel rhan o Business Grant Busnes Bwrdd yr laith Gymraeg sydd wedi cyfrannu at gost yr arwyddion. Gyda nifer o gefnogwyr yn medru'r Gymraeg, roedd y clwb yn awyddus fod yr iaith i'w weld o amgylch y maes."Yn ogystal â'n cefnogwyr lleol, mae bod yn rhan o'r pyramid pêl-droed yn golygu bod nifer sylweddol o Loegr yn ymweld â'r maes," meddai Is-Gadeirydd Bae Colwyn, Andy Owens. "Rydym yn awyddus i hybu defnydd o'r iaith Gymraeg ac mae hwn yn ffordd effeithiol o wneud hynny." Mae siaradwyr Cymraeg sy'n gysylltiedig gyda'r clwb wedi croesawu'r arwyddion newydd, fydd i'w gweld o gwmpas y maes. "Mae yna un neu ddau o hogia yn siarad Cymraeg yma," meddai Derek Roberts, sy'n aelod o'r tîm hyfforddi. "Mae'n beth braf achos rydym yng Nghymru." Ychwanegodd Elfyn Jones, sydd yn gefnogwr selog o'r tîm, y byddai'r arwyddion yn sicrhau bod cefnogwyr o Loegr yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith. "Dwi'n meddwl ei fod yn syniad ardderchog ac mae'n dangos i ymwelwyr fod yna iaith wahanol," meddai.Y tymor nesaf bydd y clwb y dathlu eu 125 mlwyddiant ac mae nifer o ddigwyddiadau arbennig i nodi'r achlysur wedi eu trefnu. Roedd cefnogwr arall, Eryl Jones, yn teimlo mai syniad da oedd fod y clwb yn hybu ei Chymreictod. "Ni yw'r unig dîm Cymreig yn y gynghrair a dyla ni wneud mwy o hynny. Mae lot o bobl yn meddwl fod Bae Colwyn yn dim Seisnigaidd ond gobeithio bydd hyn yn helpu newid agwedd pobl tuag at y clwb. "Mae arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog felly pam lai cael arwyddion Ffordd Llanelian hefyd." Yn ddiweddar fe agorwyd drysau y Clwb Cymdeithasol newydd am y tro cyntaf a bu swyddogion y clwb, cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn brysur am rai wythnosau yn gweithio ar yr adeilad newydd. Gan Aled Williams
|