Cofia nifer o'r to iau yr hwyl a gafwyd wrth iddo arwain aml i jambori'r Urdd. Bu Dilwyn yn hynod weithgar yn ei swydd fer ymgynghorydd gyda Sir Conwy ers ei sefydlu yn 1996, ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn bennaeth Gwasanaethau Addysg Cynradd Sir Conwy. Magwyd Dilwyn ar aelwyd Gymraeg ym Mostyn, Sir y Fflint, a bu'n gweithio mewn nifer o ysgolion yng ngogledd Cymru cyn ei benodi'n bennaeth ar ysgol Llandrillo yn Rhos ym 1988. Yn briod â Helen, mae ganddynt dri o blant, Nia, Hannah a Daniel, mab yng nghyfraith - Leon, ac yn ddiweddar iawn, un wyres - Lwsi , sy'n gannwyll eu llygaid. Pob dymuniad da i Dilwyn yn ei swydd newydd!
|