Bu Jonathan Cawley yn reidio'n gystadleuol ers tair blynedd gyda Chlwb Beicio Llandrillo-yn-Rhos - un o glybiau beicio hynaf gogledd Cymru a sefydlwyd yn 1928.
Ymhlith ei lwyddiannau eleni mae dod yn bencampwr treialon yn erbyn y cloc dros 10 milltir, 25 milltir, 50 milltir, 50 milltir, ennill Cwpan Coffa Pete Roberts a Chwpan y Clwb i'r aelod mwyaf amryddawn a'r Cynghrair Treialon yn erbyn y cloc. Roedd hefyd yn aelod o dîm Llandrillo-yn-Rhos a enillodd gyfres o dreialon Cymdeithas Beicio Gwynedd ÂJonathan enillodd 2 ras ac roedd yn 3ydd yn y drydedd ras.
Bu'n cystadlu mewn nifer o rasys ledled gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr pan ddaeth yn bedwerydd ddwywaith a chafodd drydydd ac ail mewn rasys eraill.
Mae hefyd yn feiciwr mynydd brwdfrydig a bu'n rasio yn un o'r rasys caletaf yn Ewrop - ras Translap - sy'n parhau am wyth niwrnod gan ddechrau yn yr Almaen a gorffen dros yr Alpau yn yr Eidal. Cododd £3000 tuag at Dŷ Gobaith yn y ras honno.
Llongyfarchiadau cynnes i Jonathan ar ei lwyddiant a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol.
|