Ar y talcen 'roedd cloc y dref oedd yn dyddio'n ôl i amser John Owen, ac ef sydd wedi cael y clod am adeiladu'r cloc.
Honnir gan rai mai Mary Wynn o Gae Melwr oedd yn gyfrifol am
adeiladu'r Neuadd yn 1661, tra dywed eraill mai Maurice, mab Syr John Wynn gaiff y clod. Beth bynnag, llosgwyd y neuadd wreiddiol ac ail-adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Arglwydd Willoughby D'Eresby, Barwn Gwydir. Gwyddis i'r cloc gael ei osod un ai yn 1761 neu 1762 gan fod cofnod gan Stad Gwydir a'r pris am ei osod oedd £5-5-0.
Pan dynnwyd y Neuadd i lawr, storiwyd y cloc yn iard y cyngor lleol cyn ei symud i Amgueddfa Sain Ffagan. Bellach, mae'n ôl yn y dref yn Amgueddfa'r Elusendai.
Un oedd â llawer o ddiddordeb yn yr hen gloc oedd y diweddar Huw Humphreys o Lanrwst. Gofynnwyd iddo gan y Cyngor, ar ddechrau'r
pumdegau, i gael golwg ar y cloc gan ei fod wedi stopio ers tro. Ar ôl hynny cafodd y gwaith o edrych ar ôl y cloc. Nid gwaith hawdd oedd hynny, ac mae gennyf gof plentyn o ddringo i'r llawr cyntaf gyda'm ewythr ac wedyn dringo ysgol i'r fan lle 'roedd y cloc. Handlen oedd yn codi'r ddau bwysau - oedd yn pwyso tua thri chan pwys rhyngddynt. Byddai'n gorfod gwneud y gwaith tua dwywaith yr wythnos.
Ar ben to'r Neuadd 'roedd yna gloch debyg i gloch ysgol ac 'roedd dau bwrpas iddi - hi oedd cloch taro'r cloc, a hi hefyd oedd cloch dan y dref. 'Roedd yna wifren yn hongian y tu allan a phan oedd yna dân, fe fyddai rhywun yn canu'r gloch i alw'r dynion tân.
Amser maith yn ôl cychwynnodd y neuadd fynd ar dân. Torrodd un o raffau'r cloc a syrthiodd y pwysau mor gyflym a thynnu'r rhaff gydag ef, gan boethi cymaint wrth fynd drwy'r pwlis nes yr aeth ar dân!
Un stori fyddai Huw yn ei hadrodd oedd: "Roedd yna ddau gloc yn taro ar yr awr yn Llanrwst erstalwm - cloc y dref a chloc yr ysgol. 'Roedd yna hen fachgen wedi cael dipyn gormod i'w yfed, hanner ffordd rhwng y ddau gloc pan ddaru un ddechrau taro hanner nos, a phan yn gorffen, dyma'r llall yn dechrau taro. Daliodd yr hen frawd i gyfrif hyd at ddau ddeg pedwar! Dyma ddywedodd o: "Mi lladdith y wraig fi heno, fuo fi 'rioed allan mor hwyr a hyn o'r blaen."
Gareth Pritchard
|