Cynghorwyd fi i fynd i Ysgol y Gogarth erbyn 8 o'r gloch y bore. Rhyfeddais at y nifer o geir oedd yn y maes parcio yno a'r criw mawr o blant a rhieni - pawb yn edrych ymlaen.'Roedd yn anodd deall sut y dewisir y cystadleuwyr gan y beirniaid 'roedd yn anodd gwybod sut y buaswn yn medru dysgu trwy eistedd y tu allan i'r rhagbrofion. Dyna lle 'roeddwn yn meddwl lle i droi pan ddaeth Miss Olga Watkin Williams, sy'n dysgu cerdd yn yr ysgol leol, Ysgol Llangelynin. Gwahoddodd fi i ddod i wrando ar y plant yn canu yn y gystadleuaeth Parti Alaw Werin oedran Cynradd.
Gofynnwyd i mi aros wedyn mewn ystafell yn ymyl lle 'roedd cystadleuwyr a'u rhieni o Ddinbych. 'Roedd tair merch yn trin a thrafod prif egwyddorion Cerdd Dant. Meddyliais mor anodd fuasai canu cân wahanol i'r hyn a chwaraeir ar y delyn. Eglurodd y mamau bod hyn yn ddiwylliant gwir Gymreig ac fod y plant yn dysgu o oedran cynnar iawn.
Fy mwriad yn mynd i'r Rhagbrawf oedd, nid i glywed y tri cystadleuydd gorau yn unig, ond cael syniad o rychwant y cystadleuwyr ac 'roedd cael clywed fy ysgol leol yn brofiad ardderchog.
Rhoddwyd nodyn iddynt ac yna i ffwrdd â nhw i fwynhau canu 'Deryn y Bwn o'r Banna'. Y beirniad oedd Dafydd Iwan a dyna lle 'roedd o'n gwneud y plant yn gartrefol trwy sgwrsio yn anffurfiol efo'r plant cyn dechrau'r cystadlu.
Yn Ysgol y Gogarth 'roedd cystadleuaeth arall, unawd Cerdd Dant dan 12 oed, yn cael ei chynnal. Clywais lawer o blant yn canu'n hapus, 'rwy'n dal i glywed y geiriau 'Hoffi'r Ysgol'.
Rhyfeddais at safon uchel y plant a dycnwch y delynores Eirian Jones o'r Bala yn canu'r delyn iddynt mor broffesiynol.
Cefais sgwrs efo'r delynores ar ôl y gystadleuaeth a dywedodd wrthyf ei bod yn dod o deulu o delynorion. 'Roedd Dafydd Roberts y Telynor Dall yn un o'r teulu. 'Roedd wedi mwynhau cyfeilio i'r cystadleuwyr ond roedd ei dwylo yn ddolurus ar ôl cyfeilio i 39 o blant!
Yna gwelais y beirniad Aled Lloyd Davies a oedd wedi cael ei drwytho yn y gelfyddyd o Gerdd Dant ac felly yn feirniad abl i'r gwaith hwn. Gofynnais iddo os oedd wedi ymlâdd a'i ateb oedd ei fod yn teimlo'n iawn er ei bod wedi bod yn sialens i roi sylw gofalus i bob plentyn.
Panddatgelwyd y canlyniadau 'roedd y ferch a safai wrth fy ymyl mewn dagrau a sylweddolais iddi gael ei dewis i fynd i'r perfformiad ar y llwyfan ac y buaswn yn cael ei chlywed yn canuyn y Theatr. Llongyferchais Elen Hughes.
Canodd Elen yn ardderchog yn y Theatr yn y pnawn ond fe wnaeth Steffan Hughes hefyd ac roedd ei wyneb yn llawn mynegiant. Yna daeth Ann Jane Williams yn ieuengaf, roedd hi'n giwt iawn gyda'i dwy blethen ac yn canu'n swynol.
'Roedd y tri wedi canu'n ardderchog ond 'roedd y plant eraill a glywais yn canu yn y rhagbrawf wedi canu'n dda hefyd!
Fy ngwaith yn y pnawn oedd gwneud te efo Laura Jones, roedden ni'n cynrychioli Merched y Wawr yn gwneud paned i'r Swyddogion a'r Beirniaid tu ôl i'r llwyfan.
Gallwch ddychmygu pa mor falch oeddwn o weld Dafydd Iwan yn dod am paned. Ar ôl i mi ei gyfarch efo'r cwestiwn 'Sut mae Tywysog Carlo' cytunodd i mi ei holi. Meddyliais am ei orffennol a'r ffordd yr ymgysegrodd ei hun i'r iaith Gymraeg. Efallai na fuasem yn medru mwyhau'r Ŵyl Gerdd Dant onibai am ei brotestiadau a'i waith dros yr iaith Gymraeg!
Gofynnais iddo beth oedd dyfodol Canu Gwerin. Dywedodd bod dau beth yn digwydd yn y byd: bod diwylliant yn fyd-eang gyda cherddoriaeth o wahanol ddulliau a gwrthbwyntiau a bod diddordeb cynyddol ym mhob diwylliant. Mae caneuon a dawnsfeydd wedi eu gwreiddio yn ddwfn mewn traddodiadau. Dywedodd bod ieuenctid yn cael eu denu at Gerdd Dant ac yn cystadlu er ei fod yn rhywbeth traddodiadol. Mewn ffordd mae'n debyg i bêl-droed - mae'r ddau beth angen gwaith tîm a disgyblaeth mewn sefyllfa gystadleuol.
Daeth y sylw a wnaeth at draddodiad â ni at y syniad o arloesi mewn Cerdd Dant, beth oedd ei ymateb i hyn? Dywedodd ei fod yn deall y ddwy sefyllfa: y rhai a gredai yn y traddodiadol a'r arloeswyr. Dywedodd y gallai Cerdd Dant sefyll yn ei unfan, fel Jazz gall fod yn fwy mentrus a symud ychydig ar y terfynnau. Mae rhai dilynwyr Cerdd Dant wedi cynnig defnyddio rhagor o offerynnau. Buom yn sgwrsio am Rap ac roedd Dafydd yn gweld tebygrwydd rhwng Rap a Cherdd Dant, fel clymu'r mesurau caeth efo'r groes alaw a'r gynghanedd. Mae pobl wedi ceisio rapio i'r delyn ond yn aflwyddiannus ar wahân i Twm Morys fel Bob Delyn. 'Roeddwn yn falch bod Dafydd Iwan wedi cytuno i roi cyfweliad i un o 'Ferched y Paned'.
Yn hwyrach ar y dydd gwelais yr Å´yl ar S4C mwynheais y cyflwyniadau yn arbennig barddoniaeth Myrddin ap Dafydd 'Dathlu Pedwar Can Mlwyddiant Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg', cyflwyniad wedi ei leoli yn NhÅ· Mawr Wybrnant, Cartref yr Esgob Williams Morgan.
Mwynheais y deuawdau dros 21 oed Edryd a Geraint a Carol a Glesni - 'roeddent yn canu fel angylion. Uchafbwynt arall i mi oedd cyflwyniad proffesiynol Ysgol Glanaethwy - modd ardderchog i'r ieuenctid oedd yn bresennol.
Wel dyma i chwi ddiwrnod! Teimlais bod gan Gymru rodd unigryw i'w chynnig i'r byd fel y gwrandawn ar World Routes ar fy ffordd adref yn car. 'Roedd cymaint o bobl wedi dweud nad oedd dim tebyg yn y byd i Gerdd Dant, hyd yn oed ym Mhatagonia, ond fel y gwrandawn ar Mali yn Affrica gyda Moray Kante sy'n canu efo kore (rhyw fath o delyn Affricanaidd) 'roeddwn fel petawn yn gwrando ar y Cerdd Dant unwaith eto.
Efallai y medrwn olrhain gwreiddiau Cymru ac Affrica buasai'n ardderchog petae Cerdd Dant yn cael ei ganu yn Womad ac yn medru cael ei rannu yn rhyngwladol gan fod gennym gymaint i'r byd.
Gwdihw