Ymwelodd y côr a nifer fawr o wahanol ardaloedd a chael derbyniad gwresog bob tro.
Cychwynnwyd yn Hebron, Hen Golwyn yna i Gapel Scot, Llanrwst ac Eglwys St Michael, Conwy. Treuliwyd p'nawn Sadwrn a'r Sul yn Plas Newydd, Ynys Môn ac yna yn St Martin, Eglwysbach, Noddfa, Penmaenmawr a Bryn Corach, Conwy.
Uchafbwynt y perfformio oedd trip i'r Iwerddon ddechrau'r flwyddyn a hwylio o Gaergybi i Ddulyn ac aros mewn gwesty cyfforddus yng nghanol y ddinas.
Cafwyd taith yn y bws, bws Alpine a galw ym mhentref Aloca lle y ffilmiwyd y rhaglen deledu boblogaidd Ballykissangel y diwrnod canlynol, cyn teithio'n ôl i Ddulyn a mwynhau golygfeydd arbennig mynyddoedd Wicklow ar y ffordd.
Cynhaliwyd cyngerdd carolau yn Eglwys y Bedyddwyr Contraf, ar gyrion Dulyn ac hefyd cymerwyd rhan yn y gwasanaeth bore Sul.
Ar ôl segura ychydig mewn castell oedd wedi ei addasu yn westy daeth yn amser i fynd yn ôl i'r bws a dal y fferi yn ôl i Gaergybi.
Cafwyd penwythnos i'w chofio ac mae'r aelodau yn diolch o galon i Chris Roberts am ei waith diflino efo'r côr, i Terry am drefnu'r penwythnos ac i Bob, gyrrwr y bws.
Bydd yr arian gasglwyd yn mynd i gronfa TÅ· Gobaith.
|