I geisio gwneud iawn am hyn dyma beth mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru yn ei ddweud mewn taflen 'Gyflwyno' oedd ar gael pan oedd safle Y Gyffordd yn agored i'r cyhoedd dydd Sadwrn Mehefin 6ed.
"Mae swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ymfalchïo ynddo.
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi
ymrwymo i ddod a'i gwasanaethau yn nes at bobl Cymru.
Rydym am gael presenoldeb clir a gweladwy led led Cymru gyfan".
Yn yr un daflen cyfeirir at yr ymrwymiad wnaed i sefydlu'r canolfannau newydd yma, tair i gyd; ym Merthyr Tudfil, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.
Swyddfa Cyffordd Llandudno fydd y fwyaf y tu allan i Gaerdydd ac mae wedi ei lleoli ar hen safle ffatri Hotpoint.
Bydd yma waith i bobl sydd yn gweithio yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, swyddi sy'n adleoli o Gaerdydd ac hefyd rai swyddi newydd.
Cyfeirir at rai o nodweddion yr adeilad newydd gan bwysleisio fod
pob ymdrech wedi ei gwneud i ganfod deunydd lleol ar gyfer pob
agwedd o'r gwaith. O dan y teitl cynaladwyedd pwysleisir fod creu canolfan oedd yn rhad ar ynni yn un o'r ystyriaethau pennaf pan yn cynllunio'r swyddfeydd yma.
Mae'r adeilad yma, sydd fwy neu lai ar gyffordd yr A55 a'r A470 ac a chysylltiadau da a'r rheilffordd mewn safle delfrydol i wasanaethu
Gogledd Cymru.
Does dim dadl nad yw canolfannau addas yn cyfrannu'n sylweddol at effeithiolrwydd unrhyw sefydliad a gobeithio y bydd y swyddfeydd newydd o help gwirioneddol i ddod a "gwasanaethau'n nes at y bobl".
Ond nid ffurf a gwedd adeilad, na'i leoliad hyd yn oed, yw'r prawf a yw adeilad yn cyflawni'r hyn a ddisgwylir ganddo.
Cyd ddigwyddiad oedd y ffaith fod y cyhoedd wedi cael eu gwahodd i ymgyfarwyddo ag adeilad newydd "Y Cynulliad" ac fod y "SUT YDYCH CHI'N MEDDWL Y DYLAI CYMRU WE YN Y DYFODOL?" wedi ei dosbarthu gyda rhifyn Mehefin o 'Y Pentan'.
Os nad yda chi wedi darllen y daflen eisoes cofiwch wneud.
Yr hyn sydd fwyaf amlwg yn ei chynnwys yw faint o hawlia
gan Westminster dros holl faterion Cymru, hyd yn oed yr ugain
sydd wedi eu datganoli.
Pan ddaw'r refferendwm, os daw un, fe gawn gyfle i ddatgan barn. Oes angen newid pethau ai peidio?