Mae'n amlwg fod dyfodol disglair iawn o flaen Paul, sy'n hogyn ifanc, 21 mlwydd oed. Cafodd y cyfle eisoes i gynrychioli tîm cyntaf Wrecsam ugain gwaith.Ganed Paul yn Llanelwy, cyn i'r teulu symud i Fryn Pydew. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Glanwydden, ac yna Ysgol John Bright, Llandudno, cyn dechrau ar ei yrfa, sydd erbyn hyn yn un broffesiynol.
Bachwyd ef gan Wrecsam pan oedd ond yn ddeg oed - digwyddiad yn dangos ei dalent amlwg. Yn ei gyfnod ysgol bu'n chwarae i glwb ieuenctid Bae Penrhyn ac i dîmau Ysgolion Aberconwy ym mhob oedran, a bob tro yn y gôl. Ni ddaeth chwarae mewn safle arall ar y cae i'w feddwl erioed. Er nad oedd ei deulu gyda diddordeb mewn pêl-droed, buont, bob amser, yn gefnogol iddo.
Yn naturiol, cafodd Paul y cyfle i chwarae i dîmau ifainc Cymru ar bob lefel. Mae'n awr wedi cyrraedd y brig, sef tîm Cymru dan 21 oed, yn erbyn Azerbaijan ar faes y Barri, Parc Jenner. Bu'n eistedd ar y fainc sawl gwaith, tros flwyddyn a hanner, a da oedd ei weld yn aelod o dîm a gurodd Azerbaijan o un gôl i ddim. Braf lawn i Paul oedd sicrhau rhwyd gwag.
Dywedodd hyfforddwr y tîm dan 21 oed, Jimmy Shoulder, fod Paul yn llwyr haeddu ei gyfle, ar ôl bod mor amyneddgar ar y fainc. Cyfeiriodd Shoulder at yr anaf fu'r llanc o Fryn Pydew yn ei ddioddef am fisoedd, a hynny heb gwyno. Ar ddiwedd y gêm yn y Barri, cafwyd ganddo arbediad rhagorol, digon meddai Jimmy Shoulder i brofi ei fod yn "gôl-geidwad rhyngwladol.
Pan oedd yr angen iddo brofi ei hun, gwnaeth hynny yn wirioneddol dda, ac ni ellir disgwyl mwy. "Gall y fath lwyddiant droi rhywun yn ben mawr, ond nid felly y mae hi gyda Paul. Cyfeiriodd at waith gwych ei hyfforddwr cyntaf, Grenville Millington, yn Wrecsam pan oedd ond deg oed. Yn hwyrach yn ei yrfa bu'n falch o gefnogaeth rhai fel Joey Jones, o Landudno, rheolwr yr ail dîm, Fred Davies, Mark Morris, ac yn ddiweddar, Andy Dibble, o'r tîm cyntaf, sy'n gweld Paul yn mynd ymlaen i dîm cyntaf Cymru, maes o law.
Soniodd hefyd am y pleser a'r anrhydedd o weithio gyda'r enwog Neville Southall, eto o Landudno. Ef yw arwr Paul yn y byd pêl-droed. Everton yw ei hoff dîm, a braf fyddai ei weld yn chwarae iddynt hwy yn y Brif Gynghrair.
Mae Paul wedi chwarae criced gyda thîm cyntaf Llandudno ac wedi bod yn ymwneud tipyn ag athletau hefyd, ond yn awr mae ei gytundeb pêl-droed yn ei gyfyngu i'r bêl gron. Dymunwn iddo ddyfodol disglair iawn; edrychwn ymlaen i weld y llanc o Fryn Pydew yn nhîm cyntaf Cymru.