Ar fore'r 24ain o Ebrill ymddangosodd erthygl yn y Times, yn disgrifio'r darganfyddiad fel carreg filltir yn hanes archeoleg Prydain fawr. Rhoddai'r erthygl yr argraff fod hwn yn ddarganfyddiad oedd newydd ddod i'r amlwg. Dros wyliau'r Pasg ym mysg yr ymwelwyr i fwynfeydd Y Ganolfan Oes Efydd ar y Gogarth galwodd gohebydd papur newydd a'i deulu i ymweld â'r hen safle. Bu wrthi'n holi staff y mwynglawdd yn fanwl am y lle. Yn ystod y sgwrs soniwyd am y gwaith, ymledu'r safle, a'r ymchwil a wneir yn ystod misoedd y Gaeaf, ag am y ffaith fod ogof wedi'i darganfod ym mhen rhai o hen dwnelau'r cloddfeydd Oes Efydd.
Mae'n amlwg fod yr ymweliad wedi gwneud argraff ddofn ar y gwr. Y dydd Llun canlynol ffôniodd o Lundain i ddweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi erthygl am y digwyddiad ym mhapur newydd y Times. Ymddangosodd yr erthygl a chreodd gryn gyffro ym myd y cyfryngau. Ym mhen dim roedd criwiau radio a theledu wrthi'n brysur yn holi a ffilmio ar y safle.
Tua diwedd chwe degau'r ganrif ddiwethaf dechreuodd criw o hogiau lleol ymchwilio'r hen fwynfeydd ar ben y Gogarth. Gweithfeydd eang oedd y rhain wedi'i cau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar y pryd gwnaed hyn am hwyl' heb unrhyw fwriad archeolegol na hanesyddol.
Yn aml iawn gwelwyd cerrig glan môr, esgyrn wedi'i lliwio'n wyrdd gan gopr ac olion golosg mewn rhannau o'r gweithfeydd. Er fod llawer o'r ymchwilwyr wedi edrych arnynt, dim ond un a'i gwelodd' a gwerthfawrogi pwysigrwydd yr eitemau hyn sef bachgen o'r enw Duncan James.
Gwelodd ef arwyddocâd y creiriau, mai arfau gwaith cyntefig oedd y cerrig a'r esgyrn ac mae olion tanau oedd y gweddillion golosg. Roedd yn argyhoeddedig fod yr arwyddion hyn yn dangos fod mwyngloddio wedi cymryd lle ar y Gogarth yn gynnar iawn yn hanes dyn.
Llwyddodd i gael cefnogaeth gan archeolegwyr ac ym 1976 cafwyd dyddiad carbon ar beth o'r golosg yn dyddio yn ôl i'r Oes Efydd, rhwng 1300 a 1020 cyn Christ. Rhoddodd y dystiolaeth ergyd syfrdanol i archeoleg mwyngloddio. Chwalwyd yr hen syniadau mae'r Rhufeiniad oedd y cyntaf i gloddio copr ar y Mynydd. Bu llawer o archeolegwyr yn gyndyn iawn i dderbyn hyn ar y pryd, ond erbyn heddiw mae'r ddamcaniaeth wedi ennill ei thir, ac yn dderbyniol gan y mwyafrif llethol ohonynt.
Ym 1991 ffurfiwyd cwmni Great Orme Mines Ltd. ag agorwyd Canolfan yr Oes Efydd, sef rhan o'r hen fwynfeydd wedi'i addasu ar gyfer twristiaid. Rhoddwyd y pwyslais ar weithgareddau'r Oes Efydd ag erbyn heddiw mae'r fenter yn fyd enwog ag yn croesawu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol.
Mae'r cwmni wrthi'n ddygn pob gaeaf, yn ehangu'r safle a pharatoi mwy o atyniadau, a safleoedd tanddaearol ar gyfer y tymor canlynol. Tua mis Hydref llynedd daethpwyd o hyd i ogof ym mhen rhai o hen dwnelau'r cloddfeydd Oes Efydd.
Ymddengys fod yna siambr oddeutu hanner can troedfedd o led. Oherwydd llif dwr tanddaearol dros y canrifoedd mae'r ogof wedi'i llenwi bron at y to gyda llaid. Ni ellir dweud faint yw ei hyd na'i dyfnder, a bydd gofyn gwaith cloddio caled a thrwyadl i allu penderfynu ei maint, ag i ddarganfod ei chyfrinachau. Gobeithir y bydd modd cyflawni hyn yn ystod y gaeaf nesaf.
Nid rhywbeth newydd yw darganfod olion gweithfeydd cyn-hanesyddol yng nghrombil Mynydd Llandudno. Ym 1917 cafwyd hanes yn un o'r papurau lleol gan John Hughes, cyn fwynwr, a ddechreuodd weithio ym mwynfeydd y Gogarth ym 1837. Soniodd am ddod o hyd i lefydd mawr' a'r mwyn wedi'i gloddio ohonynt.
Yna ym 1849 turiodd criw o fwynwyr i mewn i siambr tua deugain llathen o hyd a dod o hyd i forthwylion cerrig ac arfau esgyrn. Yn anffodus ym mhen tri mis chwalwyd y cyfan ymaith gyda ffrwydron, ac erbyn heddiw ni wyddys hyd yn oed lleoliad y fan. Ar y pryd ond y mwyn copr a ystyrid yn werthfawr. Erbyn heddiw, hanes y diwydiant sy'n werthfawr a hybu twristiaeth yw gwaith y mwynfeydd.
Bu dros dair mil o flynyddoedd ers pan ddechreuwyd cloddio am gopr ar Fynydd Llandudno. Daeth y diwydiant i ben tua chant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Dros y cyfnod hirfaith bu llawer iawn o durio a phalu ym mherfeddion y ddaear ac mae milltiroedd o dwnelau yn gwau drwy grombil y Mynydd.
Yn sicr ddigon mae toreth o gyfrinachau a gwybodaeth am y gorffennol yn aros yn nhywyllwch yr hen weithfeydd. Bydd gofyn am lawer o gloddio anodd, araf a thrwyadl gan yr archeolegwyr tanddaearol i geisio dehongli cynnwys y siambr hir guddiedig. Efallai, yn ystod y gaeaf nesaf, bydd ogof Y Times' yn datgelu cyfrinachau a gwybodaeth am yr amseroedd a fu.
Bydd llawer yn edrych ymlaen yn eiddgar am y canlyniadau. Ond beth bynnag a ddaw o'r ymchwiliad, nid hon oedd y cyntaf, ac yn sicr ddigon nid hon fydd yr olaf o'r cyfrin leoedd a ddarganfyddir ar hen Fynydd Llandudno!
Tom Parry