Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y diwrnod y cafodd
tywarchen ei thorri yn Llandudno gan Martin Lewis (Darlledwr
Newyddion y 91Èȱ¬) a hefyd un bob un gan 20 maer lleol.
Mae'r hosbis wedi symud ymlaen o fod yn cynnig gofal dyddiol yn
unig i fod erbyn hyn yn gallu derbyn 11 o gleifion preswyl.
Mae'r ganolfan Gofal Dydd yn cynnig sylw mewn dull holistig i'r
cleifion a'u teuluoedd drwy arbenigedd tîm o nyrsus, meddygon,
ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion
cyflenwol a gweithwyr ar gael i drin traed a gwallt.
Mae'r pwyslais yn cael ei roi ar wneud y profiad yn un pleserus a dibryder i'r claf, ei
ofalwyr a'i deulu a'r prif nod yw diwallu anghenion yr unigolyn.
Yn yr un modd mae'r gwasanaeth a gynigir yn NhÅ· Gobaith wedi
datblygu'n sylweddol drwy ofalu am blant angeuol wael a'u
teuluoedd.
Mae'r gofal yn cael ei deilwrio ar gyfer pob unigolyn a
mae'r hyblygrwydd yma yn rhoi cefnogaeth aruthrol i deulu pob
plentyn.
Wrth gwrs, nid yw gofal o'r safon gorau yn dod am ddim!
Mae
Hosbis Dewi Sant a TÅ· Gobaith yn hynod o ddiolchgar i'r
gwirfoddolwyr sydd wedi treulio blynyddoedd er mwyn iddynt gael gwireddu'r freuddwyd o fedru cael darpariaeth fel hyn yng Ngogledd
Cymru.
Mae'r ddwy sefydliad yn gorfod codi ymhell dros £1 miliwn yn
flynyddol ac yn gwerthfawrogi pob ceiniog sy'n dod o sawl cyfeiriad
gwahanol.
Sut mae pobl yn mynd ati i godi arian?
. Cyfeillion Hosbis Dewi Sant - tanysgrifiad blynyddol o £ 15
. Lotri'r Hosbis
.Siopau Elusennol - Conwy/Llandudno/Craigydon/Llandrillo yn Rhos/Bae Colwyn/Llanrwst
.Ailgylchu - hen ffonau symudol/darnau arian tramor/hen stampiau
.Blychau mewn siopau lleol.
.Rhoddion Dathlu - gofyn am rodd o arian yn hytrach nag
anrheg penblwydd/priodas a.y.b
.Digwyddiadau noddedig
.Cymunroddion
Gan fod hon yn flwyddyn mor arbennig mae TÅ· Gobaith wedi trefnu
dathliadau swyddogol hefyd i godi arian ac yn cynnig rhai syniadau
gwreiddiol i ddathlu pum mlynedd o wasanaeth.
. Trefnu taith gerdded noddedig gan ddefnyddio 5 yn thema - 5 km
neu 5 milltir
.Te Parti gyda cymdogion/ffrindiau
.27 Mehefin - Gŵyl yn Yr Wyddgrug - 'Clasuron yn y Parc' - Rhys Meirion, Shân Cothi a David Kempster
.28 Mehefin - 'Corau yn y Parc' - 'Only Men Aloud'!' /Ysgol Glanaethwy/Mark Evans/Côr Trelawnyd/Côr Caerwys/Côr Rygbi Gogledd Cymru (01745 330000)
Gweithgareddau Hosbis Dewi Sant
. 7 Mehefin - Taith Gerdded y 2 Raeadr Abergwyngregyn
. 26 Mehefin - Dawns Haf Flynyddol
. 25 Gorffennaf - Garddwest Haf
. 14 Awst - Diwrnod Golff a Swper
. 15 Awst - Ras Hwyaid