91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Toiledau Cyhoeddus Bygythiad i'r Cyfleusterau Cyhoeddus
Gorffennaf 2005
Cau toiledau'n anghyfleus i'r cyhoedd
Bu llawer o sôn yn ddiweddar am y cynllun sydd wedi ei roi ymlaen i ystyried cau toiledau cyhoeddus yn Nyffryn Conwy.
Mae toiledau pentref Rowen yn un o'r rhain.

Cynhaliwyd cyfarfod yn y pentref i drafod yr uchod ac roedd consyrn mawr ymysg y pentrefwyr a phobl sydd yn rhedeg busnesau yna.

Mae Rowen yn bentref lle mae nifer o gerddwyr yn ymgynnull cyn cychwyn allan am y diwrnod - a mae yna lawer yn defnyddio'r toiledau cyn cychwyn ar eu taith ac wedi dod yn ôl.

Mae perchennog Y TÅ· Gwyn, tafarn y pentref, yn poeni y bydd yna lawer yn cerdded i fewn ac allan o'r dafarn i wneud dim ond defnyddio'r toiled. Mae yna fwyty hefyd yn y pentref sydd a'i berchennog yn poeni am yr un peth. Nid oes toiledau o gwbl ym mhentref Ty'n y Groes a mae hyn yn digwydd yno'n aml meddai Mr Peredur Morris, perchennog Y Llew Coch.

Cynhelir carnifal yn flynyddol yn Rowen - maent yn dibynnu ar y toiledau ar gyfer y diwrnod; byddai gorfod llogi rhai dros dro yn gost ychwanegol ar y diwrnod. Mae nifer o erddi Rowen ar agor i'r cyhoedd bob yn ail blwyddyn - achlysur pan fydd cannoedd yn heidio i'r pentref.

Mae angen toiledau'r Neuadd Goffa a'r rhai cyhoeddus ar y diwrnod hwnnw.

Y rheswm sy'n cael ei roi dros y cau yw fod y gost o drwsio ac adnewyddu'r toiledau i safon derbyniol yn un enfawr. Mae pentrefwyr Rowen wedi gofyn i gynghorwyr y sir ailfeddwl a hefyd gofyn am amcanbris o fwy nag un ffynhonnell.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý