Trefnwyd y noson gan yr enwog Orig Williams, a adnabyddir fel El Bandito, a Phwyllgor Dawns Eisteddfod yr Urdd.
Bari 'Ten Foot' Griffiths, Dafydd Vaughan a Johnny Saint oedd y tîm o Gymru oedd yn paratoi ar gyfer herio'r Americanwr Alan, yr Albanwr McDonald a'r Sais Gary, yn y cylch reslo.
Roedd y floedd i Bari 'Ten Foot' y cawr o Borthmadog yn diasbedain, ac roedd y dorf yn llawn edmygedd o weld y Cymro 21 stôn, chwe troedfedd saith modfedd yn paratoi ar gyfer yr ornest. Doedd gan yr Americanwr ddim gobaith wrth i gefnogaeth y dorf gario'r Cymro i'r brig, a phan gododd 'Ten Foot' faner Cymru yn fuddugoliaethus ar ddiwedd yr ornest, roedd y dorf ar dân!
Yna, tro'r bobl ifanc oedd ymaflyd codwm yn y cylch. Maredydd Pyrs o Badog ger Betws y Coed oedd pencampwr y bechgyn dros unarddeg oed, ac Ynyr Jones o Lanrwst, deg oed, enillodd gystadleuaeth y categori iau. Cyflwynwyd gwregys pencampwyr reslo i'r ddau. Llongyfarchiadau iddynt ar ddod yn bencampwyr reslo Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 08!
Yng ngornest olaf y noson gwelwyd chwe reslwr proffesiynol yn y cylch, ac er iddi fod yn ornest agos, daeth tîm Cymru i'r brig. 'Roedd hi'n noson llawn hwyl i'r teulu cyfan ac mae'r diolch yn fawr i Orig a phawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson yn codi dros £1000.
|