91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Alex Rose Ar Ddiwrnod Clir
Medi 2005
Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi fod ffilm o'r enw On A Clear Day (12A) yn ymddangos yn y sinemâu ar hyn o bryd gyda Peter Mullan, Brenda Blethyn, Jamie Sives, a Billy Boyd yn actio ynddo.
Ond efallai nad ydych wedi sylweddoli mai Alex Rose sydd wedi ysgrifennu'r scipt.

Mae Alex yn enedigol o Dalybont, Dyffryn Conwy, yn fab i Keith ac Irene Rose, Capel Llwynygwaeaw, Llanbedr y Cennin.

Ganwyd Alex yn 1961 ac aeth i Ysgol Gynradd Dolgarrog, ac yna ymlaen i Ysgol Dyffryn Conwy cyn graddio gyda B.A o Ysgol Gelf Chelsea, ac mae'n ôl-raddedig o Ysgol Gelf St. Martins.

Cymerodd ddiddordeb mewn gwahanol grwpiau drama cyn darganfod y theatr ac astudio mewn ysgolion Addysg Gelf ar gyfer bod yn actor. Mae'n briod â Lynne ac mae ganddynt un mab, Gabriel, sy'n 9 oed ac yn byw ar hyn o bryd yng ngorllewin Llundain. Mae wrth ei fodd yn dod yn ôl i Dalybont yn aml.

Dyma ffilm hir gyntaf Alex ac mae wedi ei gomisiynu i ysgrifennu drama chwe rhan erbyn y mis yma o'r enw Baby Bet ac mae newydd orffen comedi ramantus An Ordinary Girl ac hefyd drama dwy ran am amser y rhyfel: My Friend the Enemy yn 2004.

Crynodeb byr o'r ffilm yw bod Frank (Peter Mullan), gŵr gweithgar 55 oed, parchus yn ei gymdeithas yn cael ei hun allan o waith. Am y tro cyntaf yn ei fywyd mae Frank heb gyfeiriad. Pan mae ei ffrind, Danny (Billy Boyd), yn tynnu ei goes y gallai nofio ar ddiwrnod clir i Ffrainc mae'r syniad yn cael ei blannu yn ei feddwl. Trwy guddio ei gynlluniau oddi wrth ei wraig Joan (Brenda Blethyn) mae Frank yn benderfynol o roi ei fywyd yn ôl efo'i gilydd trwy geisio'r prawf dycnwch eithaf - i nofio'r Sianel i Ffrainc!

Drwy wneud hyn mae yn cryfhau ei berthynas toredig â'i fab. Os nad ydych eto wedi gweld y ffilm, ewch i weld!

Pob dymuniad da i Alex i'r dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý