91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Ni a Nhw
Chwefror 2006
Gan Gwyn Huws
Pe gwelir fi'n crwydro'r fro a bag plastig un o'r archfarchnadoedd dan fy nghesail - a hwnnw'n edrych yn drwm, na phoenwch. Nid bom fydd ynddo, dim byd ffrwydrol, dim byd i beri niwed i'r un creadur byw.
Na, dim byd o'r fath, dim byd mwy na geiriadur.

A, ie, wel, meddech chi'n dosturiol, rhyw dipyn o Ddic Aberdaron heb fod hanner mor glyfar. Ond eto pam llusgo clamp o eiriadur o gwmpas y fan. Wedi'r cyfan, os oes angen ychydig o gysur wrth deithio o fan i fan oni fuasai cyfrol fechan ysgafn o farddoniaeth neu ddiarhebion neu ddywediadau gystal â dim byd.

Wel, mae hi'n hen bryd gwneud y sefyllfa'n glir, yn glir fel grisial. Mae gen i gariad newydd, ddaeth i lenwi a chyfoethogi 'mywyd ac mi gyrhaeddodd, o bob bore, fore dydd Nadolig. A dwi wedi methu tynnu'n llygaid oddi arni byth ers hynny.

Gwnewch bopeth yn Gymraeg yw'r cyngor doeth i bob un ohonom. A dyma fi'n gwneud. A dyma wna i bellach, tra byddaf Scrablo - yn Gymraeg. Bum yn un o'r criw bach dethol y llwyddodd Siôn Corn i ddod o hyd i'r gêm Scrabl a'i gosod yn fy hosan, efo'r afal a'r oren wrth gwrs. A mynd ati'n egniol, a gyda bagiad bach o eiriau mawr fel anfarwoldeb a thragwyddoldeb a sawl - deb arall, disgwyliwn i'r pwyntiau gynyddu ar garlam. Ond nid felly roedd hi o gwbl.

O weld A ar y bwrdd chwarae, dyna ddefnyddio'r unig D oedd gen i - a gwneud gair mor fawr a sylweddol - DA - ac ennill 2 bwynt anhygoel. A dyna sut bu yn y sesiwn gyntaf a'r dwsin nesaf.

Ond roedd gwaeth i ddod. Fy ngwrthwynebydd (mi fasai hwnnw'n air ardderchog i lawr ar y bwrdd) yn bachu'r cyfle a throi'r DA pitw yn DAIONI gan dreblu sgôr y gair ar amrantiad.

Hyd yn oed os ydych chi'n llawn o ewyllys da, sbrowts, sieri, mins peis a phwdin Dolig fedrwch chi ddim llai na theimlo cenfigen a chasineb tuag at eich cyd-chwaraewr sy'n gwisgo rhyw het wirion beth bynnag. A thrwy niwl y sieri fe dybiwch ei weld yn gwenu'n wirion a rhyw olwg enillwr, concwerwr, gorchfygwr arno. Cesar o sgrablwr - VINCIT.

Ond dyddiau cynnar ydi hi. Ara deg mae mynd ymhell - meddai rhywun rywbryd yn rhywle. A dyma roi DAD i lawr yn hunangyfiawn ond chredwch i ddim be aeth drwy fy meddwl pan newidiwyd hwnnw i DADLEUOL - a'r L olaf yn cyrraedd y gornel a threblu sgôr y gair unwaith eto.

Daeth gair anfarwol i mi o rywle - GWYBOD. Mi drowyd o'n GWYBODAETH - a'r tro nesaf mi newidiodd y gwalch y gair i RHAGWYBODAETH. Ond dwi'n benderfynol o ddal ati a rhoi mhig i mewn i'r geiriadur a gweld rhywsut, rhywfodd y medrai innau ddod yn arbenigwr, yn feistr, yn bencampwr ar y sgrablo - yn Gymraeg.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý