91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Matlock yn 'Ardal y Peak' Ar y we
Mai 2007
Tony Ellis
"Wel be' uffar dach chi'n ei wneud yma, 'ta?"
Cael pryd o fwyd mewn tafarn fuon ni, ac erbyn diwedd y noson roedd y bobl wrth y bwrdd nesaf wedi taro sgwrs â ni.
Ar y ffordd adra o Lincolnshire fuon ni, digwydd bod, wedi ymweld â ffrindiau, ac oherwydd ein bod yn gwybod y buasen yn pasio trwy Ardal y Peak, roedd hyn yn gyfle da i gael dau ddiwrnod o wyliau mewn ardal braf.

Yn y dafarn roedd ein "cyffeilliau" newydd ofyn i ni a oedden ni ar wyliau, a lle oedd "adra". Ac wedi clywed ein bod yn byw yn Eryri, roedden nhw'n methu'n lân a deall pam roedden ni isio cael gwyliau yn rhywle arall! 'Doedden ni ddim yn byw ym Mharadwys yn barod?

Mae'n gwneud i chi feddwl, 'tydy? Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd ar wyliau i rywle braf - cyn gorfod mynd adra i rywle sydd yn llai prydferth o lawer. Ond dim y ni ym mro y Pentan! Dan ni'n ddigon ffodus i fedru mynd i lefydd fel Ardal y Peak (ac oes, mae 'na lefydd sydd yn anhygoel o brydferth yno), ac wedyn dychwelyd i rywle yr un mor brydferth.

Cyn mynd doedden ni ddim yn siŵr a ddylen ni fwcio ymlaen llaw neu beidio, ac wedi edrych ar y We, daeth hi'n glir nad oedd 'na ddiffyg o lefydd Gwely a Brecwast yn yr ardal.

Ond dydy darllen am lefydd ar y We - hyd yn oed os oes 'na luniau - ddim yr un fath a gweld lle yn y cnawd, nac ydy? Yn y pen draw, er nad oedden yn disgwyl cyrraedd yr ardal tan hwyr yn y prynhawn, penderfynon ni geisio cael hyd i le addas ar siawns.

A dyna wnaethon ni - cael hyd i le bendigedig ym Matlock. Ond rhaid dweud, wedi edrych ar eu gwefan ers hynny, fuasen ni ddim wedi bwcio i aros yno tasen ni wedi gweld y geiriau "yn union yng nghanol y dref" o flaen llaw! Ond fel mae'n digwydd mae'r gwesty ar ben ryw ffordd bengaead (cul-de-sac) ar lannau'r afon, a pharc mawr ar ei thraws, felly chlywson ni ddim byd. A chan fod 'na bont fach dros yr afon, fedren ni fod mewn tÅ· bwyta neu dafarn dda o fewn munudau.

Er ein bod wedi cerdded yn y Peak o'r blaen, dim ond yn y Dark Peak yn y gogledd fu hyn. Roedd y White Peak yn y de yn gymharol newydd i ni, felly cyn mynd roeddwn i wedi edrych ar y We i weld oedd 'na sôn am deithiau cerdded da. Wel oedd - llawer o wybodaeth, ac ar ôl dau ddiwrnod o gerdded yn yr haul rhaid i mi ddweud mod i wedi dotio'n lan at y lle, a jyst a marw isio mynd yn ôl.

A rŵan ein bod yn adnabod yr ardal yn well, ac yn gwybod lle ydy lle, rydw i wedi bod yn chwilio mwy ar y We am deithiau da, yn arbennig yn y Dales ac ar hen welyau'r traciau - mae 'na nifer, er enghraifft Llwybr Tissington, Llwybr Monsal a Llwybr Manifold ('Googliwch' y rhain am wybodaeth!). Ac o ganlyniad, erbyn hyn mae gen i restr hyd fy mraich! A mwy na hyn rydw i wedi dod o hyd i siop lyfrau ar y We sydd yn arbenigo mewn llyfrau cerdded, felly cyn ein hymweliad nesaf byddaf yn archebu sawl o'r rhain.

Cyn cychwyn am adra, dwedodd perchnogion y gwesty wrthon eu bod yn bwriadu cynnig cysylltiad rhyngrwyd diwifrau i westeion yn y dyfodol. Am ddim. Felly fyddaf yn mynd a'r laptop tro nesa? Dim peryg! Gellwch fo dyn sicr y bydd gen i well pethau i'w gwneud pan fyddaf yno!

Mwy am Gyfrifiaduron a Byd y We y mis nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý