Mae mewn llecyn braf gyda ambell i fainc i gael eistedd i edrych ar y blodau lliwgar. Y canolbwynt yw'r garreg fawr (llithfaen), rhodd gan y chwarel leol. Agorwyd y gerddi gan Mr Gareth Jones, Aelod Cynulliad, a chafwyd gair gan y Maer newydd, Mrs Myfanwy Baines. Daeth plant ysgolion Pencae a Chapelulo o dan arweiniad Mrs Sarah Tee Evans (dirprwy Pencae) a Mr John paul Jones (dirprwy Capelulo) i'n diddordi cyn i'r gwesteion fynd ymlaen i'r caffi lle roedd Betty, Tesni a Beryl wedi bod yn dra phyrsur yn paratoi ar ein cyfer. Diolch yn fawr iddynt.
|