Bydd Catrin yn galw yno yn eitha cyson, a'i bryd ar greu diddordebau i'r cleifion yno, fel Peg Barker o Drefriw sy'n hoffi gwaith llaw ac arferion creadigol tebyg, gwaith gwau a gwnïo, gwneud tuddadau gwely, a charpedi ysgafn. Y broblem wrth gwrs oedd costau cyfarpar a dyna sut y cafodd Catrin syniad o gynnal taith feicio noddedig dros rhyw 150 0 filltiroedd er mwyn codi ychydig o arian tuag at brynu cyfarpar i hyrwyddo diddordebau y bobl yma. Ac felly y bu ar fore braf ym Mehefin aeth Catrin, ei mab Tom, ac Ali, ffrind iddo o Eglwysbach, ar eu beiciau a chyfeirio i lawr i'r De, trwy Machynlleth, Aberystwyth, aros noson yn y Borth, ac ymlaen y bore drannoeth cyn belled ag Abergwaun ac i Dŷ Ddewi, heb lawer o drafferth medda nhw, ar wahân i dwll neu ddau yn un o'r teiars. Ac 'roedd yr hogia yn wybodus iawn sut i drwsio pethau felly. Roedd y daith dros 170 o filltiroedd. Diolch i Catrin a'r hogia am y syniad a'r ymdrech, diolch i bawb a gefnogodd y fenter ac i'r noddwyr hael: cafwyd casgliad o dros £500.
|