Yn aml, mae'r digwyddiadau neu'r gwyliau yma yn rhai sefydlog a'r
lleoliadau'n rhai cyfarwydd iawn erbyn hyn.
Ar y llaw arall, mae dieithrwch a newydd-deb 'maes y gad' yn apelio at wylwyr ac yn ychwanegu at y diddordeb.
Nid dyma'r tro cyntaf i un o gystadlaethau pwysicaf Cymru, neu'n wir Prydain ac Ewrop, gael eu cynnal ar Forfa Conwy a rhwng Mehefin 15fed a'r 17eg eleni yma y cynhaliwyd Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr HÅ·n Ewrop.
Daeth rhai o chwaraewyr gorau'r byd yma, enwau cyfarwydd fel Bob Charles, Neil Coles, Sam Torrance, Des Smyth, Tommy Rorton, Eamon Darcy, Constantino Rocca a Jose Rivero, ynghyd ag amryw eraill. Doedd dim diwedd ar eu canmoliaeth i gyflwr a safon y cwrs na chwaith i'r gefnogaeth a gafodd y digwyddiad.
Roedd y cannoedd ddaeth i gefnogi yn Carl Mason yn cyrraedd y deunawfed lawnt yn dystiolaeth i hyn.
Ond cyn bwysiced â dim, efallai, mae'r ffaith fod teledu lloeren wedi neilltuo awr o raglen i ddangos y cyfan yn golygu bod Conwy a'i chwrs golff enwog wedi cael sylw dros y byd.
Carl Mason enillodd, ond profodd y daith o dwll i dwll dros dwyni aber afon Conwy yn gryn sialens hyd yn oed i'r dewrion hyn.
I'r saith deg pump o gystadleuwyr dim ond saith chwaraewr oedd yn well na 'par' ar ddiwedd tair rownd. Felly mae'n deg dweud mai Morfa Conwy oedd yn fuddugol mewn gwirionedd.
|