'Roedd y Ffair hon wedi denu llawer o ymwelwyr i'r dref ac yr oedd bwydydd ar werth mewn amryw o leoedd ar hyd a lled y dref. Ar y sgwâr yr oedd pabell yn gwerthu cacennau cartref, llysiau lleol a wyau. Manteisiodd y gangen leol o Sefydliad y Merched i werthu eu cynnyrch yma. Draw â ni i'r Neuadd Guild ac yma yr oedd cynnyrch Marchnata Teg. 'Roedd y byrddau yn cynnwys pob math o ddanteithion gan gynnwys Cacen Nadolig hardd am £9. 'Roedd cyfle i chwi flasu cymysgedd o reis a ffrwythau sych o bob math yma. Blasus iawn. Rhaid oedd ymweld â'r Neuadd Ddinesig gan mai yno yr oedd yr amrywiaeth mwyaf o stondinau ac yr oedd cyfle i flasu ymhob un! Lle ardderchog i brynu danteithion a gyfer y Nadolig - yn gnau, siocledi a diodydd o bob math. 'Roedd cigoedd a bwyd môr ar werth yma, iogwrt a theisennau a bisgedi. 'Roedd popeth yn edrych yn lliwgar iawn ac 'roedd y blas a'r arogl yn werth chweil. Cyn mynd adref rhaid oedd galw yn y babell ac y Cei. Yma gwerthid cig lleol, wystrys a ffrwythau ac 'roedd hi'n wledd i'r llygad i weld ambell un yn llowcio'r wystrys yn llawen ac un arall yn gwneud stumiau hyll wrth geisio eu llyncu. Difyr iawn oedd cael treulio amser yn mynd o babell i babell ac yr oedd llawer un yn cario bagiau yn llawn danteithion adref o'r Ŵyl gan edrych ymlaen at gael cefnogi gŵyl gyffelyb yn y dref flwyddyn nesaf.
|