Nod yr Hen Bods fydd cefnogi gwaith a gweithgareddau'r Ysgol ym Mae Colwyn ynghyd â chyfle i gynddisgyblion gysylltu gyda'i gilydd.
Syniad cyn-ddisgybl sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau oedd ffurfio'r gymdeithas.
Er ei fod bellach yn byw yn Miami, Fflorida mae Dr David Williams wedi bod yn gefnogol iawn o'i hen ysgol dros y blynyddoedd.
Cyfrannodd yn ariannol tuag at greu ystafell gyfrifiaduron newydd yn yr ysgol ac mae'n awyddus bod cyn-ddisgyblion eraill yn cael cyfle i fod yn rhan o'r ysgol unwaith yn rhagor.
"'Dwi wedi gweld syniadau tebyg i'r Hen Bod yn yr Unol Daleithiau yn llwyddiannus yn codi arian i ysgolion," meddai David Williams.
"Nid oes rheswm pam na all cynllun tebyg fod yn llwyddiannus yng ngogledd Cymru."
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, Sharon Jones y byddai'r gymdeithas newydd yn hwb mawr i ddisgyblion presennol yr ysgol.
Mae Pennaeth yr ysgoli yn awyddus bod cyn ddisgyblion yn dod yn rhan o'r gymdeithas newydd.
"Mae'n gynllun sy'n gweithio'n dda yn America a'r gobaith yw y bydd yn gweithio fan hyn," meddai Moi Parri.
"Mae David yn awyddus bod cylchlythyr yn cael ei ddanfon ar e-bost pob tymor yn rhestru digwyddiaua a llwyddiannau'r ysgol.
"A bydde hynny yn gyfle hefyd i gyd-ddisgyblion gadw mewn cysylltiad gyda'i gilydd.
"Mae hyd at 2,000 wedi bod yn ddisgyblion yn Ysgol Bod Alaw ers ei sefydlu ym 1950," ychwanegodd Mr Parri.
"Y gamp yn awr fydd ceisio cysylltu gyda nhw i gyd!"
Mae modd ymaelodi gyda'r Hen Bods drwy ffonio Ysgol Bod Alaw ar (01492) 530420 neu e-bostio: pennaeth@bodalaw.conwy.sch.uk
|