91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Buddugol ar y Dartiau: Aelodau Merched y Wawr, Cyffordd Llandudno. Merched y Wawr Aberconwy
Mai 2006
Adroddiad o gyfarfod mis Ebrill o bwyllgor rhanbarth Merched y Wawr Aberconwy.
Croesawyd yr aelodau i'r cyfarfod gan ein Llywydd, Nan Williams. Anfonwyd ein cofion at ein Llywydd Anrhydeddus, Mari Roberts, gan obeithio y bydd Mari gyda ni y tro nesaf.

Aeth Nan ymlaen i gyfeirio at ein colled fel Rhanbarth ym marwolaeth Garmona Roberts, Cangen Llanrwst a fu hefyd yn Ysgrifennydd Rhanbarth weithgar i Nan. Yr oedd Garmona wastad yn barod ei chymwynas ac yn weithgar a doeth ei chyngor yn ei Changen. Estynnwn gydymdeimlad â Seth Roberts, ei gŵr. Hefyd bu i Glenda Williams ein cyn drysorydd golli ei brawd yng nghyfraith. Estynnodd Nan gydymdeimlad i Glenda a'r teulu ac i deuluoedd aelodau a changhennau eraill sydd wedi cael profedigaeth drwy golli aelodau yn ddiweddar.

Yr oedd yn braf cael deall fod Noson Chwaraeon y Rhanbarth yn Eglwys Bach wedi bod yn llwyddiant unwaith eto. Diolchodd Nan i'r Pwyllgor Chwaraeon am drefnu'r noson, ac yn absenoldeb Rhiannon Parry diolchodd Nan ar ran y Pwyllgor Chwaraeon i bob Cangen fu yn cystadlu a rhoi raffl, i gangen Betws y Coed am drefnu paned, ac i'r ddau ddyn dewr, sef Wil a Dewi am gadw trefn ar y noson. Llongyfarchodd gangen Cyffordd Llandudno am ddod yn gyntaf gyda dartiau, cangen Llanrwst am ddod yn gyntaf gyda Dominos a changen Betws y Coed am ddod yn gyntaf gyda Chwist. Y gobaith ydi fod y timau yn fodlon mynd i Fachynlleth i gynrychioli'r Rhanbarth yn y Gemau Cenedlaethol ar yr 20fed o Fai. Bydd arian ar gael at y costau teithio ac at gostau cofrestru.

Yn absenoldeb Helga Martin o'r Pwyllgor Iaith a Gofal, darllenwyd adroddiad yn diolch i'r canghennau a roddodd raffl ac a fu'n helpu gyda Diwrnod y Dysgwyr yng Nghonwy ym mis Chwefror eleni. Unwaith eto cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gyda 80 o bobl yn dysgu neu'n ceisio gwella eu gafael ar yr iaith Gymraeg a 14 yn cael eu hyfforddi fel athrawon ail iaith gan Eleyn Hughes o Brifysgol Bangor.

Rhoddwyd adroddiad gan Myfanwy Roberts o'r Pwyllgor Gŵyl a Hamdden yn dweud fod trefniadau yn mynd ymlaen ar gyfer y Ffair Haf yn Nhalybont ar nos Iau Mehefin 15fed. Mae poster, a thocynnau i'w gwerthu, wedi eu hanfon at bob Cangen a bydd ymarfer i rai sydd yn arddangos gwisgoedd priodas ar nos Fercher Mehefin 7fed yn Neuadd Talybont am 7.15 gyda Maureen Hughes ac Eira Jones. Mae pob cangen eisoes yn gwybod beth i werthu ar eu stondin.

Bydd manylion y noson ac adroddiad llawn o'r pwyllgor yn mynd i bob cangen gyda chofnodion Pwyllgor Rhanbarth mis Ebrill.

Mynegodd ein Llywydd bryder fod gennym ddim Ysgrifennydd, Is-Lywydd, Is-Ysgrifennydd nac Is-Drysorydd Rhanbarth ar gyfer mis Medi eleni.

Rhoddwyd gwybodaeth am yr Ŵyl Haf ym Machynlleth a gynhelir ar Fai 20fed i'r aelodau. Dai Jones Llanilar fydd y Gŵr Gwadd yn y Cyfarfod Blynyddol a Dr Dai Lloyd fydd y Gŵr Gwadd yn yr Ŵyl Haf Iechyd a Ffitrwydd. Mae'r manylion gan y canghennau.

Dylai unrhyw rai sydd yn bwriadu cystadlu yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Llanelwedd roi eu henwau i Ann Jones Ysgrifennydd y Pwyllgor Gŵyl a Hamdden (01492 660 291) neu i Myfanwy Roberts (01492 640 939) erbyn Mai 15fed. Manylion y cystadlaethau gan y canghennau.

Mae Penwythnos Preswyl Llanbedr Pont Steffan yn brysur lenwi. Enwau a blaendal o £50 i Aberystwyth ar ffurflen arbennig i'w chael gan ysgrifennydd y gangen cyn gynted ag sydd bosibl.

Bydd tâl aelodaeth yn codi i £12.50 o fis Medi ymlaen.

Bydd teithiau cerdded i Gymry Cymraeg a dysgwyr yn cael eu trefnu gan Emlyn Thomas ar gyfer y Gwanwyn. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492642 043.

Gofynnwyd i bob cangen holi a fyddai un neu ddwy aelod yn fodlon cyfieithu ychydig i Hospis Dewi Sant. Bydd rota yn cael ei threfnu yn y Rhanbarth. Manylion y rhai sydd yn fodlon gwneud i'r Ysgrifennydd Rhanbarth.

Cytunwyd mai o hyn ymlaen bydd gwybodaeth yn cael ei gynnwys pan fydd y canghennau yn tapio'r Pentan a bydd gwahoddiad yn mynd allan i ganghennau Bae Colwyn a Hen Golwyn i fod yn rhan o'r rota gyda'r tapio,

Yr oedd pryder ynglŷn a'r bwriad i ail drefnu ysbytai Gogledd Cymru gan fod y bwriad i israddio Ysbyty Llandudno yn mynd i achosi problemau i drigolion Dyffryn Conwy, bod problemau parcio i'r staff a'r ymwelwyr eisoes yn bodoli yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd a bod cau Ysbyty Abergele yn mynd i achosi problemau i'r holl ardal. Gofynnwyd i'r aelodau fynd â gwybodaeth yn ôl i'r canghennau am lyfryn sydd ar gael yn ymwneud ag ail drefnu ysbytai Gogledd Cymru a chyfle iddynt fynegi eu barn pe byddent yn ffonio 01978 727871 a gofyn am y llyfryn 'Chi a'ch Gwasanaeth Iechyd'.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý