Y mae'r adeilad yn cael el ddymchwel yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud lle i gapel newydd sef Capel y Rhos. Felly dyma edrych i mewn i'r posibiliadau o gael prynwr i'r organ!
Adeiladwyd Hermon yn y flwyddyn 1903 ond ymhen dwy flynedd wedyn, sef 1905, yr adeiladwyd yr organ a'r gwneuthurwyr oedd Alexander Young, cwmni o Fanceinion.
Bu nifer o organyddion yn Hermon yn ystod y blynyddoedd ond Mary Nicholas gafodd y fraint o chwarae'r offeryn yn yr oedfa olaf ar lonawr 22ain eleni.
Wedi derbyn adroddiad manwl gan arbenigwr organau, Paul Josin o Lundain - un sydd â chysylltiad agos a'r Gogledd gan fod ei briod yn hanu o'r ardal, daeth i weld yr organ yn Nhachwedd y llynedd.
Rhoddodd gyngor imi sut i fynd ati i werthu organ bib. Penderfynais mae'r peth doethaf oedd mynd ati i werthu ar ebay, gan nad oes galw am organau ym Mhrydain Fawr, mentro i werthu dros y byd, yn arbennig felly ar ôl clywed fod organ o eglwys Saesneg yn Llundain wedi ei darganfod mewn skip!
Wedi tynnu sawl llun o'r organ ar Ragfyr 20fed i'w hysbysebu ar ebay am 10 diwmod, croesi mysedd y cawn ymateb! Ymhen tridiau derbyn dwsin' o ymholiadau o bob rhan o'r byd yn cynnwys Portugal, Denmark, Iwerddon, Yr Almaen a Ffrainc, oll eisiau rhagor o luniau!
Erbyn y diwrnod olaf, Rhagfyr 28ain, roedd dau ddwsin wedi holi ac yn dangos diddordeb mawr. Pum cant o bunnoedd oedd y pris isafswm ar ebay.
Gwyddwn mai gwerth organ ail law oedd rhwng pedwar cant a mil o bunnoedd i'r rhaj sydd ddim yn gyfarwydd, fel hyn mae'r sustem yn gweithio: mae'r prynwr yn cynnig mwy na'r isafswm ac ar yr eiliad olaf, sef 19.40 y.h, ar y diwrnod olaf, sef Rhagfyr 28ain yn yr achos yma, y person fyddai'n cynnig y pris uchaf fyddai'n hawlio'r eitem.
Gwerthwyd yr organ am £921 i Blasius Szabo, gwr ifanc ugain oed sydd â'i gartref ger Budapest ac sydd yn bwriadu ei hail adeiladu mewn neuadd gyngerdd yno.
Ar ddydd Llun, 6ed o Chwefror, cyrhaeddodd Blasius, Fae Colwyn gyda thri o'i gyfeillion a dechrau tynnu'r organ yn ddarnau man ar gyfer ei chludo'n ôl i'w gwlad.
Cyn dechrau'r gwaith fodd bynnag, aeth Blasius at yr organ a dechrau chwarae, ac yn amlwg o'r nodyn cyntaf gwyddwn ei fod yn organydd dawnus dros ben ac wrth ei fodd.
Yr oedd y pedwar yn gartrefol iawn yn awyrgylch y festri ac yno buont yn cysgu am dair noson tra bu'r gwaith yn mynd ymlaen, gyda rhai o aelodau Hermon yn galw i mewn o bryd i'w gilydd gyda bwyd a diod iddynt.
Y nos lau ganlynol, am naw o'r gloch, cyrhaeddodd lori o Fudapest a dyma ddechrau llwytho'r organ, a oedd erbyn hyn, yn gannoedd o ddarnau man, wedi eu marcio a'u rhestru'n ofalus gan Blasius.
Mae Blasius wedi addo imi y bydd yn anfon lIun o'r organ yn ei chartref newydd ac fe drefnodd John Medwyn Jones, aelod arall o Hermon, gael plac i'w osod ar yr organ yn dynodi yr achlysur a'r cysylltiad agos â Chymru.
Cewch weld llun o'r organ yn ei chartref newydd, gobeithio, ddiwedd y flwyddyn!