Yn ôl y trefnwyr, roedd y cyfan yn llwyddiant ysgubol a phawb a phopeth wedi mwynhau eu hunain. Ond, pwy mewn gwirionedd fu ar eu hennill ar y penwythnos yma? Ar adegau fel hyn nid yw pobl am wario yn y siopau arferol. Mae llawer o'r arian yn mynd i bobl y ffair, yn fwy nag i neb arall! Tybed, mewn gwironedd mai rhywbeth fel hyn mae Llandudno ei angen? Gwn i sicrwydd nad aeth nifer fawr o bobl i mewn i'r dref, dim ond parcio ar y cyrion a cherdded i Gaeau Bodafon i weld yr Ŵyl Gludiant. Pan ddechreuwyd ar y syniad o ŵyl rhyw ddeunaw mlynedd yn ôl, gŵyl Fictoraidd oedd dan sylw. Bellach, fe gewch drafferth i ddod o hyd i lawer sy'n eich atgoffa am yr oes honno. Ydi hi'n deg bod y sŵn, yr anghyfleustra a'r diffyg trefniadau parcio sy'n gorfodi nifer o bobl fod yn gaeth i'w cartrefi, yn cael rhwydd hynt gan yr awdurdodau? Wrth gerdded o Gapel Tabernacl, yn rhan uchaf Stryd Mostyn, ar y bore Sul, roedd rhywun yn cael ei atgoffa o'r Marine Lake, Y Rhyl, yn ystod y pumdegau, gyda'r sŵn aflafar a drewdod y cŵn poeth! Rhaid canmol yr Ŵyl Cludiant am eu harddangosfa, ond nid am y diffyg trefniadau parcio. Tybed, beth yw eich barn chwi am yr Ecstrafagansa? Byddwn yn falch o dderbyn eich ymateb.
|