Roedd gan Angharad Booth-Taylor, Hiraethog, awydd helpu'r ardal, ac felly aeth ati i brynu Pen y Bont. Roedd dipyn o waith atgyweirio felly gwagiodd yr adeilad ac ail gychwyn hefo silffoedd newydd, gwaith trydan, garej, pob math o gêr i'r siop, llawer o gost, cyfweliadau o bob math a stocio'r silffoedd.
Roedd y siop yn barod a theulu'n rhentu gweddill y tÅ·. Ar fore braf, heulog ac oer dydd Llun Tachwedd 21ain fe agorodd y drws a bu'n brysur trwy'r dydd gyda phlant yr ysgol yn cael cyfle eto i brynu da da a chreision.
Daeth Gwyn Llywelyn a'i griw ffilmio yno ar gyfer y rhaglen 'Wedi Saith' a chafwyd sgwrs efo amryw ar y camera. Rhaid peidio anghofio Frances Jones gan ei bod hithau yn helpu yn y siop a bod y Daily Post a'r Weekly News ar gael ganddi pan oedd y siop ar gau. Ar un adeg roedd pump o siopau yn y llan sef siop Mrs Morgan - siop y Giât oedd hon - yna siop esgidiau Owen Williams, Stanley House ynghanol y llan, Siop Groser a Draper John Wili Lloyd a Siop y Cigydd sef siop Angharad Booth- Taylor rwan. Mae pawb yn gwybod beth yw colli siop bentref, felly mae i fyny i'r ardal ei chefnogi yn y fenter fawr. Pob llwyddiant i Angharad a diolch. Diolch am siop yn agor yn lle cau o'r diwedd.
|