Trefnwyd penwythnos arbennig i gofio sut roedd y dref yn ystod y 40au.
Dydd Sadwrn
Ar y Sadwrn roedd nifer o stondinau'r elusenau o dan yr arcêd a'r hen siop Bartles yn llawn o bob math o bethau am yr hen amser hyd yn oed lein ddillad gyda'r geiriau "Siegfried Line".
Cafwyd brechdanau Spam a jeli a blancmange yn y caffi - roedd yn brysur drwy'r dydd.
Y r un oedd y stori ar lan y môr gyda'r caffi yn brysurach nag erioed.
Nos Sadwrn cynhaliwyd cabaret a dawns yn y neuadd gyda
Calum yn canu, hefyd merch o
Loegr, Fiona Harrison. Roedd y lle yn orlawn.
Gwelwyd jîps a thanciau yn mynd o gwmpas trwy'r penwythnos a merched a dynion wedi eu gwisgo mewn dillad rhyfel o Brydain, America a'r Almaen. Dydd Sul
Bore Sul aeth nifer i lan y môr i weld y milwyr wrth eu gwaith ac yn y prynhawn daeth nifer fawr at
y gofgolofn i wasanaeth byr gyda Fiona yn cynrychioli'r Cyngor,
Enid dros yr eglwysi a Bill, fel un a fu yn Korea ac yn cynrychioli'r rhai a fu yn y rhyfel, yn gosod tusw o'r pabi coch ar y gofgolofn tra clywyd swn y pibydd yn y cefndir. Daeth y Sul i ben gyda chyngerdd gan 'Happy Faces' - cwmni sydd yn gweithio'n galed i godi arian at elusennau plant, ac eto roedd y neuadd yn llawn a phawb wedi mwynhau.
Dydd Llun
Diwrnod prysur gyda ambell i stondin a gweithgareddau ar y prom. Daeth y penwythnos i ben tua 3 o'r gloch gyda swn y 'Last Post'.
Roedd nifer o'r merched, a rhai
o'r dynion a phIant wedi gwisgo'n
addas i gofio'r 40au - ffrogiau,
hetiau, 'snoods' sana nylon hefo
'seam' lawr y cefn - Dod ag v
atgofion plentyndod yn ôl.
Vivienne Mooney, un o'n cynghorwyr oedd yn arwain y gweithgareddau ac mae'n rhaid canmol y tîm cyfan am eu gwaith dros yr Ŵyl. Rhaid i mi gyfaddef nad wy'n rhy hoff o bethau fel hyn ond cefais fwynhad mawr o fod yno ac yn llawn canmoliaeth o'r gwaith wnaed. Enid M Williams, gohebydd Penmaenmawr
|