"Gan imi fethu bod yn angladd y cyfaill Dic Gelli Greigiog, Penrhyn-coch, rwy'n falch o gael teyrngedu iddo a minnau wedi ei `nabod er pan oeddwn yn blentyn yn Nhaliesin.
Fel Dic Ynys Greigiog, Eglwys-fach yr oedd pawb yn ei nabod ac yn hen gynefin ei deulu y bu byw at hyd ei oes at wahan i'r misoedd olaf yn y Penrhyn.
Mewn llyfr diddorol gan Hugh Rees, Dyfi View, Eglwys-fach, lle croniclodd hanes Ysgubor-y-coed gan enwi tai, ffermydd a phobl mae'n cyfeirio at William Jenkins, Ynys Greigiog fel 'galluog ysgrythurwr'.
Un o feibion y gwrda hwn oedd William a briododd a Margaret un o blant Ynys-eidiol,a nhw oedd rhieni Richard Iorwerth, William John ac Anne Elisabeth. Fel ei dad bu Dic yn flaenor a thrysorydd yng nghapel y Graig, Ffwrnes, am gyfnod hit a llawenydd iddo oedd fod Heulwen ei ferch wedi'i ddilyn fel trysorydd.
Mynychodd Dic Ysgol Gynradd Eglwys-fach cyn mynd i Ysgol Uwchradd Machynlleth lie bu'n ddisgybl hynod o ddisglair yn of y son.
Wedi gadael ysgol adre i ymarfer 'crefft gyntaf dynol-ryw', gyda'i' dad a'i frawd a'r bartneriaeth rhwng y brodyr yn un hyfryd gydol y blynyddoedd.
Ar wahan i amaethu bu'r brodyr yn fawr eu gwasanaeth yn y capel ac yng nghymuned Eglwys-fach ac mae'n dda cael cydnabod y gwasanaeth ardderchog. Gwasanaethodd Dic hefyd at bwyllgorau Cymdeithas y Defaid Mynydd Cymraeg a'r Co-op yn Aberystwyth.
Roedd y rhieni yn fyw pan bregethais yn y Graig am y tro cyntaf ac yr oedd cael cu cefnogaeth nhw du plant yn hwb imi ar gychwyn y daith i'r weinidogaeth.A heddiw diolchaf am `y cwmwl tystion'.
Bu Dic farw bedwar mis cyn iddo fe ag Anne ddathlu eu priodas ant. Roedd Anne, merch William John ac Eirlys Jenkins, fferm y Gelli, Taliesin, yn yr un dosbarth a mi yn Ysgol Llangynfelyn ac yr oedd William ei brawd yn yr un dosbarth a Iorwerth fy mrawd a gollwyd ym 1993 yn 53 oed.
Bu'r hen gysylltiad yn fodd inni glosio at ein gilydd at hyd y blynyddoedd. Daeth Heulwen, Einion ac Ethel i lonni bywyd yr aelwyd a maes o law cafodd tad-cu a mam-gu gwmni'r wyrion a'r wyresau - Rhys, Rhodri, Richard, Alwenna, Gwion, Gerallt a Tomos. Buont o gysur mawr i Dic yn ystod ei lesgedd.Roedd Dic yn meddwl y byd o'i deulu ac fel ei hynaflaid roedd yn fawr ei groeso i lu mawr o gyfeillion fyddai'n galw yn y cartref.
A phob tro y byddem yn cwrdd a'n gilydd roeddwn yn cael y teimlad ei fod yn falch o'm gweld a caael seiadu ynglyn a phethau'r byd a'r betws.
Roedd hynny'n wir y tro olaf y gwelais of yn wad fawn yn Ysbyty Bro Ddyfi ac yntau'n canmol mawr ofal y that oedd yn gweini arno. Roedd yn briodol fod y cyfraniadau hael o .£1000 wedi'u cyflwyno i Uned Twymyn yn yr ysbyty a diolchir i bawb a gyfrannodd.
Diolch am fywyd a gwasanaeth Dic ac am ei gyfeillgarwch gydol y blynyddoedd a chofion annwyl at Anne a'r teulu yn eu chwithdod o golli un fu'n dwr cadarn iddyn nhw. Bu'r cynhebrwng yn Rehoboth Taliesin ar 19 Gorffennaf dan arweiniad ei gyn-weinidog y Parchedig Eiriona Metcalfe wrth yr organ.
Daearwyd y gweddillion ym mynwent Llangynfelyn yn ymyl rhieni Anne, ei thad-cu a'i mam-gu, William J. ac Anne E.Jenkins, Bwlcheinion, Ffwrnes, a'i rhieni hithau, John a Mary Evans fferm Tanllan"