Gan na fum innau at bwyllgor Sioe Talybont ers rhai blynyddoedd bellach, teimlais mai haws oedd rhoi fy argraffiadau o weithgareddau'r dydd heb fod yn rhagfarnllyd.
Yn sgîl clwy'r Traed a'r Genau hawdd fyddai i'r pwyllgor fod wedi cymryd camau i beidio a chynnal sioe eleni fel y gwnaeth amryw eraill, ond nid felly y bu. Y penderfyniad oedd cario ymlaen a diolch iddynt am hwnnw.
Dim gwartheg, dim defaid a dim geifr ond eto Cae y Llew Du yn llond o bob math o ddiddanwch at gyfer pawb. Roedd y dorf yn lluosog a'r pres at y giat i fyny yn sylweddol ers llynedd, y tywydd yn rhannol gyfrifol am hyn mae'n siŵr.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o'u hadnoddau a'u hamser i sicrhau llwyddiant y sioe. Wn i ddim sawl person a ddywedodd wrthyf
yn ystod y dydd eu bod yn hoffi dod i Sioe Talybont oherwydd y croeso a gafwyd yno ac mae hyn yn dweud y cyfan am y pwyllgor ac ymroddiad diflino ei haelodau.
Hoffwn innau ar ran y ddau ohonom ddiolch am yr anrhydedd o gael bod yn llywyddion. Cawsom ddiwrnod dedwydd, difyr a chofiadwy iawn, y swyddogion yn edrych ar ein holau fel brenhinoedd, `VIP' treatment' o'r radd flaenaf.
Yn ystod 2006-7, bum yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon ac yn sgil y swydd honno bu'n rhaid i mi fynychu tua deunaw o sioeau ledled Cymru a Lloegr hefyd. Credwch fi, mae Sioe Talybont cystal os nad gwell na llawer ohonynt, mae graen ac ôl gwaith ar bob rhan o'r cae.
Llongyfarchiadau mawr a hir oes i Sioe Talybont.
Bob a Sue Williams
Mae canlyniadau'r Sioe yn rhifyn Medi 2007 o Papur Pawb.
|