91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Bourbon y ceffyl, Gary Jones, Catherine, Leslie a Beth. Cyffro yn y Cemist!
Hydref 2004
Fel sy'n hysbys i bawb yn y pentref, mae'r fferyllfa ar y stryd fawr wedi ehangu lawr llawr i ddarparu pob math o nwyddau at gyfer marchogaeth, gan gynnwys dillad, sgidiau a bŵts, a chyfrwyau.

Aeth gohebydd a ffotograffydd prysur Papur Pawb ar ymweliad brys i gael stori'n llawn - a chawsant gryn ddychryn gan gredu bod lleidr pen ffordd yn mynd i ymosod arnynt! Ond roedd eu hofnau'n ddi-sail, cawsant groeso cynnes gan Catherine Jones ei gŵr Gary, a Leslie a Beth, y ddwy gynorthwywraig - a Bourbon y ceffyl! Tywyswyd ein staff o amgylch y siop gan Catherine.

"Rydyn ni wedi ehangu'r adran i anifeiliaid. Ar wahân i'r Farmers' Coop yn y dre, does yna unman yn yr ardal yn gwerthu'r math yma o beth, a does dim dewis helaeth iawn yno. Felly dyn ni ddim yn cystadlu â neb lleol, dim ond â'r catalogau. Mae ein prisiau 'run peth â'r catalogau, a does dim rhaid talu am y cludiant. Mae pobl yn dod mor bell â Thywyn ac Aberaeron. Cyn hir bydd gennym wefan hefyd, a gall pobl archebu ar-lein."

Mae Gary a Catherine wedi bod yn rhedeg fferyllfa Borth a Thalybont ers 6 mlynedd bellach, ac maent wedi ceisio adfer y lle i'w ysblander gynt, pan oedd Dai Davies wrth y llyw.

Ar ôl i Dai ymddeol, roedd y siop yn cynnig llai a llai o nwyddau a gwasanaethau, felly ein nos yw gwella'r safon eto."

Llawr llawr, mae fel byd arall ers i'r seler gael ei gweddnewid - mae dewis eang o ddillad i oedolion a phlant, nid dim ond dillad marchogaeth, ond pob math o ddillad cynnes ac ymarferol. Mae yna stafell wisgo bwrpasol, ac wrth drio sgidiau, gallwch fwynhau paned o goffi ffilter ffres (Y Lolfa - talwch sylw!)

Meddai Catherine, "Mae marchogaeth ceffylau yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ym mhob man, ac mae llefydd fel canolfannau marchogaeth Rheidol a Thaliesin wedi gweld cynnydd yn eu busnes."

Mae'r siop ar agor ddydd Sadwrn nawr hefyd ar gyfer codi presgripsiwn, sy'n ddefnyddiol i'r sawl ohonom sy'n gweithio. Pob lwc i'r busnes - mae'n galondid gweld pobl yn mentro, a gobeithio y bydd yn hwb i eraill. Rhaid rhoi gair o glod iddynt am yr arddangosfa o nwyddau lliwgar y tu allan i'r siop, hefyd - atgof o'r hyn a fu, pan yr oedd y stryd fawr yn frith o siopau a bwrlwm!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý