Mae'n braf gallu adrodd bod criw o bobl yn ardal Ysgubor y Coed wedi dod at ei gilydd i 'fentro'.
Fe fuodd Papur Pawb yn siarad gyda Harry Toland, brodor o'r Iwerddon, sydd wedi ymgartrefu yn Eglwysfach ers again mlynedd.
Mae Harry, sydd ar hyn o bryd yn Gadeirydd Cyngor Ysgubor y Coed wedi ymateb i gynnig a ddaeth gan CADW sef adran o Lywodraeth Cyuulliad Cymru.
Nôd CADW i'w 'diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru drwy weithio gyda phartneriaid a pherchnogion preifat'.
Mae'n amlwg bod CADW wedi sylweddoli, o'r diwedd, os ydynt am i gymunedau gymryd gofal o'r henebion sydd yn eu hardaloedd rhaid cael y gymdogaeth i berchnogi'r henebion yma a chymryd diddordeb byw ynddynt.
Wrth weld Ffwrnais Dyfi yn sefyll yn segur a thywyll ar lan afon Einion, afon sydd wedi bod yn arbennig o fyrlymus eleni, rhoddodd Harry'r syniadau o flaen cynulleidfa niferus a ddaeth at ei gilydd nôl ym mis Chwefror.
Yn fras iawn y syniadau pryd hynny oedd adnewyddu'r olwyn, trawsnewid y maes parcio gyferbyn yn barc cymunedol ac edrych ar ba ddeunydd gellid ei wneud o'r hen sled olosg enfawr sy'n sefyll tu cefn i adeilad y ffwrnais.
Ar ddiwedd y cyfarfod roedd digon o ddiddordeb a brwdfrydedd i fynd a'r syniadau ymhellach ac fe ffurfiwyd `Grip Cymunedol Ysgubor y Coed'.
Yn ystod y misoedd diwetha maent wedi bod yn cwrdd yn fisol i ymestyn y syniadau gwreiddiol a chreu awgrymiadau pendant.
Yn ystod y misoedd diwetha mae CADW wedi ymateb yn frwd i syniadau manwl y grip gymaint felly fel eu bod yn cwrdd gyda'u gilydd ymhen ychydig ddyddiau.
Teimlad y grŵp oedd bod rhaid atal dirywiad pellach i'r olwyn ddwr, hon sy'n tynnu sylw teithwyr ac yn achosi nifer fawr i stopio a holi ynghylch yr adeilad.
Bu ymateb brwd hefyd i'r syniad o ddatblygu'r maes parcio gyferbyn yn fan chwarae / hamddena i'r gymuned gyda thoiledau, llwybrau cerdded, a byrddau gwybodaeth natur a stori'r mwynwyr.
Byddai lle yno i adeilad a all fod yn siop i'r pentre.
Y trydydd pegwn i anelu ato yw datblygu'r hen sled olosg, adeilad enfawr pedwar llawr, sy'n sefyll tu cefn i adeilad y ffwrnais.
Yma gellid creu rnannau arddangos, stafelloedd i'w defnyddio fel gweithdai a gofod ar gyfer cynnal digwyddiadau cyhoeddus neu gymdeithasol.
Mae'n dda clywed bod'na bobl sy'n dangos ymrwymiad i'w hardal ac yn gweld potensial i adfywhau ac yna rhannu y dreftadaeth ddiwydiannol oedd yn gymaint rhan o fywyd gogledd Sir Aberteifi rhyw ddau gan mlynedd yn ôl.
Pob lwc iddynt yn ei hymdrech i ymateb i nod CADW a gobeithio y cant gymorth y corff cenedlaethol yma a'r asiantaethau eraill fydd yn y batneriaeth hon.