Roeddwn i yno i ymchwilio i addysg amgylcheddol yn y wlad, gan edrych ar lyfrau gosod Ysgolion Uwchradd a oedd wedi cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan CSSL, gyda chefnogaeth RSPB yn y naw degau cynnar. Tua'r un amser a phan ddechreuwyd dosbarthu'r llyfrau, cychwynnodd rhyfel cartref ofnadwy a effeithiodd yn drychinebus ar y wlad. Cafodd miloedd o bobl eu lladd a'u hanafu, dinistriwyd pentrefi a bu raid i nifer o bobl ddianc am eu bywydau. Yn 2002 cyhoeddwyd bod y gwrthdaro ar ben ac ers hynny, gyda chymorth rhyngwladol, maent yn ailadeiladu cartrefi ac ysgolion.
Gweithiais yn bennaf yn y brif-ddinas, Freetown ond bum yn Kenema yn y Dwyrain am wythnos. Yma mae CSSL a RSPB yn y broses o sefydlu gwarchodfa yn fforest law Gola gan weithio gyda chymunedau lleol i ddarparu ffyrdd o gyd-fyw gyda'r goedwig. Ymwelais ag ysgolion Uwchradd ble mae'r athrawon yn hwyr yn cael eu talu ac yn dysgu dosbarthiadau hyd at 120 o ddisgyblion. Mae ysgolion uwchradd mor llawn fel eu bod yn gorfod gweithio sifftiau, y disgyblion ifancaf yn y bore a'r rhai hŷn yn y pnawn. Pan oeddwn yno, roedd y myfyrwyr wedi cynllunio a pherfformio dramâu anhygoel ar destunau amgylcheddol megis torri coed yn anghyfreithlon a hela a lladd mwncïod.
Yn Freetown ymwelais â'r Weinyddiaeth Addysg er mwyn gweld faint o bwyslais oeddynt yn ei roi ar faterion amgylcheddol wrth gynllunio'r cwricwlwm a beth oedd y problemau mewn addysg. Mae llawer ohonynt.
Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu ymweld â'r ysgol yn Freetown sydd wedi gefeillio ag ysgol Tal-y-bont, gan fod Tom Cairnes, (a oedd yn yr ysgol gyda fy merch, Cathryn) allan o'r wlad y rhan fwyaf o'r amser yr oeddwn yno, ond llwyddais i'w gyfarfod i roi'r llythyrau a ddaeth o Ysgol Tal-y-bont ac i glywed am ei fywyd yn Sierra Leone. Dywedodd fod y plant yn ei ysgol yn mwynhau darllen y llythyrau'n fawr.
Cefais groeso mawr pan ymwelais ag ysgol arall a theimlais yn gartrefol pan ofynnwyd i mi pa dîm pêl-droed oeddwn yn ei gefnogi Man U neu Lerpwl!
Cefais amser pleserus a diddorol yno. Gwnaethum ffrindiau newydd a chesglais wybodaeth a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu prosiectau i hybu ymwybyddiaeth ac i ymateb i faterion amgylcheddol sydd yn cael effaith ar fywyd pob dydd pobl Sierra Leone.
Monica Lloyd-Williams
|