"Ers dechrau'r flwyddyn bu'r clwb yn paratoi yn ddiwyd tuag at y gystadleuaeth adloniant, a gynhaliwyd yn Theatr Felinfach, rhwng 20 a 27 Chwefror. Creu pantomeim oedd y dasg, a bu 13 o glybiau'r sir yn cystadlu. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Ifan Gruffydd, Tregaron a'i wraig Dilys. Elen Pencwm, ynghŷd â rhai o arweinyddion ac aelodau'r clwb, a greuodd sylfaen y stori. Yna aeth Elen ati i ysgrifennu'r panto "Dafydd ap Gwilym a'r busnes cariad 'ma". Yn ogystal, bu wrthi yn ddyfal yn ein hyffroddi, gyda chymorth rhai o'r arweinyddion eraill. Llawer o ddiolch iddi hi a'r criw am eu amynedd a'u parodrwydd. Hefyd, rydym yn ffodus ac yn wirioneddol ddiolchgar i Ruth Jên am greu cefndir lliwgar a thrawiadol. Panto traddodiadol yw'r cynhyrchiad yn y bôn, yn ymwneud a'r bardd Dafydd ap Gwilym, sy'n dathlu ei ben blwydd yn ddeunaw mlwydd oed. Dim and on peth sy'n ei boeni - does ganddo ddim cariad! Felly, dyma ymweld a Gwrach Cors Fochno, yn y gobaith y gall hi ei helpu ...! A dyna ddechrau ar y trafferthion! Bu'r clwb yn cystadlu ar y nos Iau gyda chast o oddeutu 40!! Cafwyd llawer o hwyl yn perfformio ac roedd ymateb y gynulleidfa yn rhagorol. Ar y nos Wener, cyhoeddwyd enwau y tri clwb a oedd yn cael gwahoddiad i ail-berfformio yn y ffeinal ar y nos Lun - Llanddewi-brefi, Pontsian a Thal-y-bont. Felly, ar y nos Lun, yn ôl eto i Felinfach i roi tro arall at ein panto. Erbyn hyn, roedd y cast wedi ymlacio ac yn ysu i ddiddanu cynulleidfa newydd. Rhoddwyd beirniadaeth ar y clybiau i gyd fu'n cystadlu, ac roedd Ifan Gruffydd yn ganmoladwy iawn o safon a osodwyd trwy gydol y gystadleuaeth ac yn rhyfeddu at allu'r actorion, yn enwedig y rhai dan 16 oed. A'r canlyniadau? Yn gyntaf, yr unigolion. Llongyfarchiadau mawr i Elen Pencwm a'r criw ar ennill cwpan y Cynhyrchydd Gorau ac i Aled Llŷr am gael cwpan yr Actor Gorau dan 26 oed. Roedd y cast i gyd ar binnau drain erbyn hyn, ac wedi hir ddisgwyl, daeth y canlyniadau. Dyfarnwyd Pontsian yn 3ydd, Llanddewi-brefi yn 2i1 a Thal-y-bont yn fuddugol!!!" Erthygl gan C J
|