Gyda'r Nadolig yn agosau peth naturiol yw meddwl am fwyd a pharatoi am yr ŵyl ac er y bydd llawer ohonom yn slafio wrth y stof fe fydd gwrthrych 'Adnabod' tro hyn yn brysurach na phob un o gogyddion cartref ardal Talybont.
Ei enw yw Adam Simmonds a fe yw pryf gogydd Gwesty Ynyshir yn Eglwysfach.
Mae Ynyshir wedi ennill llu o wobrau ond mae'n debyg mai'r clod uchaf oedd i'r bwyty gael ei ddyfarnu yn Hydref 2005 yn Welsh Restaurant of the Year gan y Good Food Guide. Mae hyn yn gosod Ynyshir bron at yr un lefel â bwytai Gordon Ramsay a Le Manoir aux Quat'Saisons - gyda rhain ond yn cael ei graddio un marc yn uwch na Ynyshir. Mae hyn oll felly yn golygu fod Adam Simmonds yn un o gogyddion gorau Prydain, ond ble ddysgodd e ei grefft a sut mae e a'i dîm yn paratoi am y Nadolig?
Mae Adam yn hanu o gyrion Llundain ac fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn coginio yn yr ysgol - o'r cychwyn cyntaf roedd e'n ymwybodol mai gweithio gyda'i ddwylo oedd e am wneud a dyma feddwl am fod yn Chef. O'r ysgol i Goleg Addysg Bellach i wneud cwrs arlwyo a dyma le dysgodd e'r 'basics.' Oddi yno i'r bwyty cyntaf a chychwyn o ddifri at feistroli'r grefft o goginio. Fel pob darpar Chef, dechrau ar y gwaelod - pilo'r tatws a glanhau llysiau ac yna yn raddol, dringo'r ysgol `fwydol.' Fe dderbyniodd Adam hyfforddiant gan y meistri mewn bwytai fel Heathcote's a L'Escargot ac yn arbennig gan yr enwog Raymond Blanc yn Le Manoir aux Quat'Saisons. Dyma'r lle a'r ffordd i ddysgu'n iawn ac mae Adam yn cydnabod fod llawer o'r gwersi wedi bod yn galed. Mae coginio ar y lefel hyn i gwsmeriaid sy'n talu'n ddrud am y pryd bwyd yn gosod pwysau mawr ar y gegin ac mae'r gwaith yn golygu oriau hir ac yn cario llawer o 'stress.'
Nifer o flynyddoedd yn ôl fe ddaeth Adam i Ynyshir am ei fod am arwain tîm mewn gwesty bychain wedi ei leoli mewn ardal lle gellid cael a defnyddio'r cynnyrch lleol gorau. Mae Ynyshir yn rhoi pwyslais mawr ar hyn - y cig i gyd yn dod o ladd-dŷ ym Machynlleth, pysgod yn cyrraedd yn ddyddiol a dewis helaeth o gaws o Gymru. Ond wrth gwrs rhaid wedyn troi'r cynnyrch yn bryd o fwyd o'r safon uchaf a dyma le mae crefft Adam yn dod yn amlwg. Mae'n disgrifio ei goginio fel 'modern European' ac yn ffafrio arddull ysgafn - un cwrs yn cynnal ac yn gweddu i'r llall a'r cyfan yn osgoi teimlad o orfwyta ar derfyn y pryd. Dyw e ddim yn hoffi defnyddio gormodedd o hufen a sawsau cyfoethog - mae'r cwsmer nawr (yn arbennig y merched) llawer mwy ymwybodol o'r calorïau ac am gael pryd blasus ond ysgafn.
I ddod yn fwyty gorau Cymru a rhaid bod yn anturus. A dyma, mae'n debyg, sy'n gosod chef fel Adam mewn categori gwahanol. Mae'n hoffi arbrofi gyda chyfuniad o wahanol flasau i greu saig fel 'loin' o borc gyda hufen ia winwns. Ond cyn i'r cwsmer gael y pryd rhaid gwneud yn siŵr fod y cyfan yn iawn ac mae Adam yn cael gweddill y staff a'r perchnogion i flasu'r arbrawf - a nhw wedyn yn awgrymu newidiadau - ychydig mwy o berlysiau, llai o bupur efallai. A dim ar ôl i'r saig gael ei brofi sawl gwaith mae e'n cyrraedd y fwydlen.
Does dim syndod hefyd fod Adam yn gweithio yn agos i'w rysetiau - dyw e ddim fel Jamie Oliver - llond law o hyn a llond dwrn o'r llall. Na rhaid bod yn egsagt - a'r rheswm am hyn yw bod rhaid i'r pryd weithio dro ar ôl tro - yn berffaith heno, nos yfory a drennydd. A'r math o ddewis welwch ar y fwydlen yn Ynyshir? Hyrddyn (Mullet) Coch, Melwn a Foie Gras fel cwrs cyntaf, petrys wedi'i goginio mewn whisgi Cymreig gyda chnau a madarch fel ail gwrs ac yna dewis o bwdinau neu gaws Cymreig.
Mae Adam a'i dîm wedi cychwyn paratoi am y Nadolig rhyw dair wythnos yn ôl. Rhaid sicrhau fod y nwyddau a'r cynnyrch yn cyrraedd y gwesty mewn da bryd a chofio wrth gwrs fod y Nadolig yn gyfnod gwyliau gyda busnesau yn cau lawr. Dros yr ŵyl fe fydd y pwyslais ar y traddodiadol - twrci a phwdin Dolig a mins peis oherwydd dyna mae pobol yn disgwyl. Fe fydd y cyfan yn cael ei baratoi yn y gwesty - yr holl bwdinau a chacennau ac yn hyn o beth fydd y Nadolig yn Ynyshir ddim yn wahanol i unrhyw gyfod arall - yr holl goginio yn cael ei wneud yn y gwesty - dim saws parod a dim byd mas o becyn. Er y cynllunio blaen llaw fe fydd Adam yn y gegin ar ddydd Nadolig a dros gyfnod helaeth yr ŵyl a'r Flwyddyn Newydd. Fe fyddai'n well ganddo fod adref gyda'i deulu ond mae'n derbyn fod ei swydd yn golygu mai cegin y gwesty yw ei le dros yr ŵyl yn hytrach nag adref. Ac ar ddiwedd dydd Nadolig ei hun fydd Adam wedi blino, ond yn hapus os fydd y cwsmeriaid wedi eu plesio.
Mae Adam Simmonds yn naturiol yn falch o'r clod a'r bri sy'n dod yn sgil y gwobrwyon ond wedi cyrraedd y nod rhaid wedyn cynnal a chadw safon. Mae pob noson yr un mor bwysig â'r llall ac mae gweithio ar y lefel hyn rywbeth yn debyg i berfformio mewn theatr. Rhaid i bob pryd bwyd - un ar ôl y llall - fod o'r un safon ac wrth gwrs y gwobrwyon a chlod yr arweinlyfrau sy'n denu'r cwsmeriaid i Ynyshir o bedwar ban byd. Ar ôl darllen y 'guide' a theithio i ganolbarth Cymru mae disgwyliadau'r cwsmeriaid yn uchel - ac Adam a pherchnogion y gwesty, Rob a June Reen sy'n gorfod sicrhau fod pob ymwelydd yn cael ei blesio ac yn gadael gan gofio fod aros a bwyta yn Ynyshir wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.
Ac Adam ei hun - oes gyda fe un tip i chi a fi wrth i ni baratoi ein cinio 'Dolig? Ei awgrym yw torri'r ddwy goes oddi ar y twrci a'i goginio ar wahân - wedyn fe fydd yr aderyn yn blasu'n well a ddim yn sychu allan wrth goginio. Tip felly oddi wrth y meistr, ond efallai y dylech chi feddwl eilwaith cyn arbrofi gyda'r hufen iâ winwns!
Erthygl gan GIE