91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Llio James Nabod: Llio James
Rhagfyr 2007
Llio James, arlunydd o Dal y Bont sy'n prysur wneud enw iddi ei hun sy'n cael sylw yn y golofn 'Nabod' ym mhapur bro Papur Pawb fis Rhagfyr.

Rwy'n ofni nad oes gen i rhyw lawer o allu mewn arlunio a phan byddaf yn ymweld ag orielau byddaf yn rhyfeddu at ddawn paentwyr ac arlunwyr. Wel, y tro hwn cawn gyfle i ddod i adnabod arlunydd ifanc sy'n prysur gwneud enw iddi ei hun, Llio James, Llannerch Tal-y-bont, Gan bod Llio i ffwrdd yn y coleg ym Manceinion, electronaidd oedd yr holi ond dim gwaeth am hynny diolch iddi am ei hymatebion llawn a diddorol.

Pryd a sut cychwynnodd dy ddiddordeb mewn celf?
Mae'r diddordeb mewn celf wedi bod yna erioed, roeddwn yn mwynhau celf yn yr ysgol gynradd ac uwchradd. Nes i benderfynu mynd ymlaen i wneud cwrs sylfaen Celf a Dylunio yn UWIC Caerdydd gan fy mod eisiau parhau yn y byd celfyddydol ond ddim yn siŵr pa ffordd i ddilyn. Fy mhrif ddiddordeb yn yr ysgol oedd cynllunio a phan oeddwn yn dechrau y cwrs sylfaen roeddwn yn meddwl fy mod am fynd i'r byd graffeg a dylunio. Hanner ffordd trwy'r flwyddyn sylweddolais mai tecstiliau oedd y maes i mi, ac felly er mae dim ond blwyddyn oedd y cwrs yng Nghaerdydd, roedd yn flwyddyn hanfodol, gan ei bod wedi arwain at benderfyniad allweddol.

Oedd na ddylanwad pwysig - athro, person arall neu arlunydd?
Mae'n hynod anodd dweud beth sydd wedi dylanwadu, ond rwy'n credu mai'r peth pwysicaf rwyf wedi dysgu, yw bod hi'n bwysig cadw llygad ar bob dim. Efallai un diwrnod byddaf yn hoffi gwaith artist, ond diwrnod arall bydda i ddim mor siŵr. Weithiau rwy'n gweld poster neu ffenest ddiddorol mewn siop, ac mae lliw neu ddarn o ffabrig yn y siop yn cynnig syniad.

Beth am y cwrs rwyt yn dilyn nawr?
Dwi'n astudio BA (Hons) Tecstilau yn Mhrifysgol Metropolitan Manceinion - yr hen goleg celf. Rwy ar ganol fy ail flwyddyn. Yn ogystal â bod yn y stiwdio o naw tan bump bob dydd, mae yna lyfr scetsio, dyddiadur wythnosol a llyfr lliw i gwblhau. Mae'r cwrs wedi ei rannu i dri mae, print, gwehyddu a gweu. Yn y flwyddyn gyntaf mae'r cwrs wedi rhoi y cyfle i mi ddysgu am wahanol dechnegau y tri maes. Yn yr ail flwyddyn rwyf wedi penderfynu arbenigo mewn gwehyddu ac mae na gyfle i fod llawer mwy annibynnol a dwi'n cael dod â steil bersonol i'r gwaith.

Er fy mod i wedi arbenigo mewn gwehyddu mae'r cwrs yn ddigon agored i mi fynd at un o'r meysydd eraill e.e cyfuno gwehyddu a phrint. Yn y drydedd, y gobaith yw dod â 'r sgiliau at ei gilydd a chreu sioe diwedd y flwyddyn bydd yn dal llygaid y staff a'r cyhoedd.

Ar hyn o bryd tua 35 sydd ar y cwrs. 'Rwy'n gweithio mewn stiwdio agored lle mae gen i ddesg unigol ond hefyd mae'n bosib gweld gwaith myfyrwyr yr holl flynyddoedd eraill ac mae hynny'n ysbrydoliaeth. Mae llawer o bobl yn cysylltu tecstiliau gyda ffasiwn ond mae'r cwrs yn hynod o hyblyg. Mae'n bosib i mi greu ffabrig at gyfer dodrefnyn, neu gynllunio print at gyfer llenni. Ar hyn o bryd rwy'n gwehyddu ffabrig bydd yn cael ei ddefnyddio fel tei i ddynion, ond efallai byddaf yn gwneud gwaith mwy rhydd a chelfyddydol at gyfer y prosiect nesaf.

Wyt ti'n hoffi Manceinion?
Mae Manceinion yn FFAB! Pan oeddwn yn dewis rywle i astudio roedd yna lawer o bwysau i mi fynd i Lundain fel prif ddinas y byd celf a dylunio. On i'n gweld e'n ormod o 'naid' o Dalybont i Lundain, ac ar y pryd, doeddwn i ddim yn barod i fynd i ddinas mor enfawr. Mae Manceinion yn gyfuniad gwych o fywyd dinas fywiog a bywyd campws clos a chyfeillgar.

Mae 80,000 o fyfyrwyr ym Manceinion, gyda'r mwyaf o fyfyrwyr mewn un dinas yn Ewrop. Mae yna naws ifanc iawn yn y ddinas, gyda nifer o bethau celfyddydol yn digwydd pob nos. Yn bersonol mae hyn oll yn golygu fod y lle'n berffaith i fi - yn ddinas ond ddim yn rhy fawr i ferch o Dalybont.

Beth am y wobr enillaist yn gynharach eleni?
Ar ôl gorffen fy mlwyddyn sylfaen yng Nghaerdydd, roedd y celf yn eistedd gartref yn hel llwch (doedd mam ddim yn hapus!) felly penderfynais roi y gwaith gorffenedig yn y gystadleuaeth Hud a Lledrith Llyn ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Roedd y darnau gorffenedig yn cynnwys sgwariau o ffelt, wedi eu hysbrydoli gan y môr a harbwr Aberystwyth. Roeddwn wedi torri i mewn i'r ffelt a gweithio gyda gwahanol ffabrigau. Bues yn ddigon lwcus i ennill gwobr artist ifanc ym Mhlas Glyn y Weddw - £750. Roeddwn wedi rhoi'r gwaith i mewn i'r gystadleuaeth ar hap, heb ddisgwyl dim. Pan welais y gwaith wedi ei fframio at y wal, roedd hi'n deimlad rhyfedd iawn. Roedd y gwaith yn edrych gymaint mwy proffesiynol.

A nawr mae dy waith yn cael ei arddangos mewn oriel ym Mhwllheli. Sut digwyddodd hyn?
Gwelodd Llio a Myrddin ap Dafydd, perchnogion oriel Tonnau ym Mhwllheli fy ngwaith ym Mhlas Glyn y Weddw. Mae oriel Tonnau yn llawn amrywiaeth, o brintiau Kyffin Williams i waith disgyblion chweched dosbarth Ysgol Pwllheli. Roeddent yn hoffi fy ngwaith ac fe gysylltodd Myrddin i gynnig lle i mi arddangos gwaith newydd yn yr hydref Rwy'n gweld hi'n anodd cyfuno gwaith arbrofol coleg a gwaith tu allan ond fe es i ati i wneud chwe darn arall i'r arddangosfa dros yr haf, tri llun ffelt a thri darlun paent. Fy nghyd artistiaid yn yr arddangosfa yw Catrin Williams a Bethan Clwyd. Unwaith eto roedd hi'n hynod ryfedd gweld y gwaith ar y wal, mwy rhyfedd fyth pan werthais i rhai o'r lluniau. Erbyn hyn rwyf wedi gwerthu y chwe darn, ac yn hynod o hapus.

Sut wyt ti'n gweld dy yrfa yn datblygu?
Wel, mae'r ail flwyddyn yn mynd yn dda yn y coleg, a digon o waith i gadw fi allan o drwbwl! Dwi'n dal yn ansicr beth hoffwn i wneud ar ôl gadael y Coleg. Mae gyrfa yn y byd cynllunio yn mynd i fod yn anodd ond y cyfeiriad yna sydd yn fy nennu. Ar hyn o bryd rwy'n cadw meddwl agored ac yn mwynhau pob munud yn Manceinion.

GIE


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý