"Mi fuasech wedi tybio mai golygfa o `bremier' ffilm oedd e, pan welwyd criw go lew yn troi allan y Llew Du wedi
Jibincio, mewn ffrogiau hardd, high heels,.a'r bois mewn dici-bows a DJs! Ond yn anffodus - dim carped coch! le, dangoswyd bod aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Talybont yn medru bod yn smart
Ar gychwyn noson Daqwns y Frenhines Ceredigion a gynhaliwyd ar y 9fed o Ionawr yn Aberystwyth. Mwynhawyd y noson yn fawr iawn!
Ers hynny, practis, ar ô1 practis sy' 'di bod, yn barod ar gyfer ein panto. Byddwn yn cystadlu ar nos
Fawrth 17eg o Chwefror, felly croeswch eich bysedd i ni! Ni'n iawn ffodus iawn bod Elen Pencwm wrth y llyw eleni eto. Cofiwch gadw'r 4ydd o Fawrth yn rhydd yn eich dyddiaduron - byddwn yn cynnal noson Pantos gyda rhai eitemau gan yr aelodau.
A goeliech chi byth, cafwyd noson arall mas yn yr un mis! Casglwyd pawb yng Ngwesty'r Marine ar gyfer ein Cinio
Blynyddol ar ddiwrnod olaf mis Ionawr. Y gŵr gwadd oedd Derrick Davies, Ty'n Ddraenen a'I straeon carlamus ... eitha handi i chwerthin y caloris bant! Cafwyd anerchiad pwrpasol - neu her ddylswn i ddweud - gan ein llywydd anrhydeddus Enoc Jenkins, Ty'n Graig ac ar yr un gwynt carem ddiolch yn fawr i Enoc a Margaret am eu cefnogaeth a'r rhodd dael. Rhaid nodi dawn arbennig Elgan 'Chief'Evans, Tynant am ei araith a threfn y noson. Cyflwynwyd dau blât yn ystod y noson fel rhan o'n traddodiad, i Aled a Caryl, Hafodau ac i Prys a Heledd Ty'n Cwm at achlysur eu priodasau.
Efallai y cofiwch nôl i fis Tachwedd pan gynhaliwyd Cwis y Sir - daeth y canlyniad drwyddo i ni ddod yn 4ydd ar y cyfan! Ymdrech dda weden i!
Bydd raffl fawr ar werth gan yr aelodau yn ystod y mis yma, felly achubwch ar y cyfle i gael y siawns i ennill gwobrau gwerth chweil!"
|